Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng,
a Duw ar drai ar orwel pell...
Yn enedigol o Drawsfynydd, yn lanc fe weithiodd ar Yr Ysgwrn, fferm ei dad; ond ymunodd â'r Ffiwsiliwyr Cymreig yn nechrau 1917, ac o fewn ychydig fisoedd fe'i lladdwyd ym mrwydr Cefn Pilkem, Fflandrys, ar ddiwrnod olaf Gorffennaf y flwyddyn honno.
Roedd yn fardd a gystadlodd yn gyson mewn eisteddfodau, ac fe'i cofir - fel Bardd y Gadair Ddu - yn benodol am i'w awdl i'r Arwr ennill cadair Eisteddfod Genedlaethol ym Mhenbedw ym mis Medi y flwyddyn iddo farw. Casglwyd ei gerddi mewn cyfrol dan y teitl Cerddi'r Bugail.
Dadorchuddiwyd cerflun pres o'r bardd yn Nhrawsfynydd ym 1923, a choflech iddo hefyd ar fur caffi wrth groesffordd Hagebosch ym Mhilkem yn Fflandrys ym 1992.
Hier ons bloed, wanneer ons recht?