Ieuan Fardd, Ieuan Brydydd Hir (Evan Evans, 1731-88)
Bardd, ysgolhaig ac offeiriad;
yn enedigol o Ledrod,
addysgwyd yng Ngholeg Merton,
Rhydychen,
a bu'n gurad mewn sawl plwyf yng Nghymru ac yn Lloegr.
Ymhlith ei gynnyrch enwocaf yw'r englynion
i `Lys Ifor Hael'.