Bardd ac ysgolhaig, yn enedigol o Landrygarn ond a fagwyd yn Llanfairpwll, Môn, a'i addysgu yn ysgol Friars, Bangor, yng Ngholeg Crist, Aberhonddu ac yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, lle bu'n un o sylfaenwyr Cymdeithas Dafydd ap Gwilym ym Mhrifysgol Rhydychen.
Darllenodd Mathemateg yn Rhydychen, ond daeth i ymddiddori yn y Gymraeg dan ddylanwad Syr John Rhy^s, athro Celteg Rhydychen. Dychwelodd i Gymru fel darlithydd yn y Gymraeg ym Mangor, ac yna yn Athro'r Gymraeg ym 1895 -- deilydd cyntaf y gadair honno.
Daw ei gefndir mathemategol i'r amlwg yn arddull drylwyr wyddonol ei astudiaethau o'r iaith ac o fydryddiaeth, gan gynnwys Orgraff yr Iaith Gymraeg a Cherdd Dafod. Y mae'n enwog hefyd am ei waith yn golygu a beirniadu a chyfieithu, ond dim ond un cyfrol o farddoniaeth o'i eiddo gyhoeddwyd sef Caniadau (sy'n cynnwys ei gyfieithiad enwog o Omar Khayyâm).
Roedd yn ymddiddori mewn pob math o bethau: mae cloc pendil trydan o'i waith yn yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan, ond Athro Cymraeg sydd ar ei feddfaen ym mynwent Llanfairpwll.