Rhestr fer o rai o feiau gwaharddedig cerdd dafod.
Yng nghorff y ddogfen hon, cyflwynwyd nifer o feiau gwaharddedig cerdd dafod - geiriau y mae rheolau caeth yn ein rhwystro rhag eu rhoi at ei gilydd o dan amodau arbennig gan fod hynny'n amharu ar y gynghanedd i'r glust. Dyma grynhoi'r prif bwyntiau i'ch atgoffa - mae triniaeth lawnach o rai ohonynt yn y gyfrol (gweler rhestr y cynnwys ar ei dechrau).
Ni ellir odli llafariad fer (drom) gyda llafariad hir (ysgafn): e.e. nid yw pren a gwên yn odli; felly hefyd, nid yw pren a cân yn proestio.
Ni ellir odli mwyn gyda gwanwyn gan mai deusain lleddf sydd yn mwyn ond deusain dalgron sydd yn gwanwyn.
Mae casgliad go helaeth o feiau wedi'u crynhoi o dan y teitl hwn - h.y. pob bai odli ar wahân i drwm ac ysgafn a lleddf a thalgron! Gall y twyll fod yn y llafariaid neu'r cytseiniaid e.e. odli clai gyda cae, llan/cam, parabl/trwyadl ac ati.
Mae rhai odlau `tafodieithol' bellach yn ddigon derbyniol os oes naws lafar i'r mesur ac mae odli y olau ac u yn hollol esmwyth ar y glust. Mae cynsail gref hefyd i odli i gyda y glir pan fo honno mewn sillaf ddiacen e.e. pig/dychymyg.
Ni chaniateir defnyddio'r un gair ddwywaith fel prifodl i wahanol linellau o fewn yr un pennill. Er hynny, mae'n bosibl defnyddio'r un gair deirgwaith yn yr un pennill!
Ni chaniateir i air acennog sy'n dwyn un o acenion y gynghanedd odli gyda phrifodl y llinell e.e.
cynnil a fu yn canu.
Ni chaniateir proest rhwng yr orffwysfa a'r brifodl mewn cynghanedd Groes neu Draws Gytbwys e.e.
gerllaw tân y gw^r llwyd hen (Dafydd ap Gwilym)
Dyma'r enw ar fai proest i'r odl mewn cynghanedd Sain e.e.
cofnodi'r gwir rhag y gwy^r
Mae'n fai bod yr union lafariaid yn cael eu hailadrodd yn nwy sillaf olaf prifacenion diacen e.e. athrod/athro, llawer/llawen, rhyfedd/rhyfel.
Gwelsom oddi wrth astudio proest ei bod hi'n groes i'r rheolau cael gorffwysfa sy'n proestio â phrifodl e.e. gw^r/gêr. Yn fwy na hynny, mae'n cael ei gyfrif yn fai os bydd llafariad mewn un prifacen yn un fath ag ailelfen deusain yn y brifacen arall, pan fo'r cytseiniaid hefyd yr un fath â'i gilydd, e.e.
y gw^r o Gaerlleon gawr (Simwnt Fychan)
Ni cheir odl na phroest rhwng gw^r/gawr ond mae yr wr ar ddiwedd gw^r yn rhy debyg i'r -w^r ar ddiwedd gawr i fod yn ddymunol i'r glust. Gelwir hyn yn ymsathr odl ac fe'i ceir gyda phob cyfuniad o ddeuseiniaid: gwêl/gwael, iawn/gwn, sêr/saer.
Erbyn heddiw, fodd bynnag, ni thelir llawer o sylw i'r rheol hon.
Lluniwyd rheol gamarweiniol yn ystod y ganrif ddiwethaf yn gwahardd `proest' rhwng cytseiniaid olaf oedd yn debyg i'w gilydd, er engraifft -t/-d; -th/-dd; ac -ll/-l. Ond nid cytseiniaid yn unig sy'n creu proest ac nid oes raid talu sylw i'r rheol hon erbyn heddiw.
Ni chaniateir gadael un gytsain heb ei hateb yng nghanol cyfatebiaeth cytseiniol e.e.
cawgiau | a chreithiau'r | frech wen chr: ch :
Mae'n hawdd twyllo'r glust gyda rhai dilyniadau cytseiniol - mi wyddom i gyd am bobl sy'n dweud befra am berfa, chwefrol am Chwefror ac ati. Trawsnewidir r/l ac n/m yn aml yn yr iaith ac weithiau bydd y dilyniant wedi'i gamosod mewn cyfatebiaeth gytseiniol:
ag ar ôl trais | galar trwm (Tudur Aled) g r l tr: | g l r tr:
Ni chaniateir i un o brifacenion y llinell wahanu dilyniant o gytseiniaid mewn cynghanedd acennog e.e.
croes corn cr:(s) c:r(n)
na chlymiad o gytseiniaid mewn cynghanedd ddiacen neu gynghanedd anghytbwys e.e. pydru/pader, pâr/person, segur/sgwâr.
Rhaid i'r cytseiniaid ddilyn yr un patrwm o gwmpas y prifacenion neu ceir cynghanedd wallus. Mae'r bai camacennu yn digwydd rhwng: cymêr/camau, gweiddi/gweddïais, boliad/ebol.
Ni chaniateir defnyddio'r gynghanedd Lusg mewn ail linell cwpled o gywydd na llinell olaf englyn unodl union.
Mae rheolau caeth yngly^n â pha mor bell y gellir cario'r orffwysfa mewn llinellau seithsill o gynganeddion Croes a Thraws:
Mydr anesmwyth mewn englyn unodl union drwy roi prifodl ddiacen yn nwy linell olaf englyn yw camymorddiwes. Dylai un llinell ddiweddu'n acennog a'r llall yn ddiacen. Gall ddigwydd mewn cywydd yn ogystal. Rhythm anwastad mewn carlam ceffyl yw carnymorddiwes yn wreiddiol.
Yr un bai ag uchod ond bod y ddwy linell yn diweddu'n acennog y tro hwn. Mae'n fwy na thebyg mai trwstaneiddiwch symudiad pen ôl epa a ysgogodd y term athrylith hwn!
Ni chaniateir rhoi mwy na llai o sillafau mewn llinell nag a nodir gan reolau'r mesur e.e. os byddai 8 neu 6 sillaf mewn llinell o gywydd, byddai'n wallus ac enw'r bai ar hyn yw tor mesur.
addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch