cynnwys


Y broliant o glawr Clywed Cynghanedd

Crefft trin geiriau yw cynganeddu. Mae'n grefft sy'n cael ei defnyddio mewn barddoniaeth Gymraeg ers canrifoedd ond mae hefyd at alw ymrysonwyr, hysbysebwyr, darlledwyr a chyfansoddwyr penawdau papurau newydd. Mewn gwirionedd, mae'n rhan hanfodol o addysg unrhyw un sy'n defnyddio'r iaith ac sydd am ddod i'w hadnabod yn well.

Mae'r cwrs hwn ar y gynghanedd wedi'i anelu at greu llinellau yn hytrach na'u hastudio a'u dadansoddi. Mewn crefft sy'n dibynnu ar y dafod a'r glust, mae elfen lafar yn rhan hanfodol o'r cwrs. Seilwyd y gwersi hyn ar gyfres o raglenni ar Radio Cymru a'r gobaith yw y bydd y gyfrol yn gymorth i griwiau trafod, dosbarthiadau ac ysgolion a cholegau sy'n astudio cerdd dafod.

Yn ei hanfod, hwyl yw trin geiriau ac ar hynny mae'r pwyslais yn y cwrs hwn.


cynnwys

addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch