y wers flaenorol cynnwys y wers nesaf


Deuddegfed Wers cwrs Clywed Cynghanedd

Penawdau papur newydd

Mae Barddas yn gylchgrawn unigryw yn y Gymraeg - nid oherwydd ei fod yn gyfnodolyn sydd wedi neilltuo'i dudalennau yn gyfangwbl i gerdd dafod a barddoniaeth, ond hefyd am fod bron y cyfan o'r penawdau uwchben yr erthyglau wedi'u llunio ar gynghanedd! Dyma ichi rai enghreifftiau:

TARO BET AR Y BEIRDD
CYD-GANU TEULU'R TALWRN
ADNABOD EIN HAELODAU
DIRYWIAD YR AWEN
HWYL O HOLI
GORAU DATBLYGIAD GERALLT
DETHOLIAD DA A THEILWNG
HIWMOR Y BEIRDD MAWR A BACH

Does dim dwywaith nad yw'r gynghanedd yn medru bod yn ddefnyddiol ac yn drawiadol wrth lunio ambell bennawd. Mae ambell glec gytseiniol neu odl yn denu'r sylw ac yn hawlio darllenwyr fel y gw^yr golygyddion tabloids Llundain yn dda. O dro i dro, bydd y wasg Gymraeg yn defnyddio'r elfennau hyn gan ddefnyddio llinell o gynghanedd gyflawn hefyd, os bydd honno'n gorffwys yn esmwyth. Yn amlach na pheidio, penawdau ar erthyglau yn dilyn yr Eisteddfod Genedlaethol fydd y rhain. Mae'n siw^r bod clustiau'r gohebwyr a'r golygyddion - heb sôn am y darllenwyr - wedi'u tiwnio'n feinach ar gyfer derbyn neges ar gynghanedd yn dilyn holl ergydion wythnos y Brifwyl yn y Babell Lên. Hefyd bydd ambell linell wedi codi'i phen yn ystod yr wythnos - mewn ymryson, efallai, neu mewn sgwrs ar y maes ac wedi'i hailadrodd gymaint o weithiau nes i enw'r awdur gwreiddiol fynd ar goll ac iddi fynd yn eiddo cyhoeddus. Daw llinellau o'r fath yn arfogaeth gyfleus i olygyddion mewn cyfnod pan yw llawer o'i staff ar eu gwyliau a'r gweddill yn dioddef o dan effaith y farathon ddiwylliannol flynyddol! Dyma un led ddiweddar a gyrhaeddodd y penawdau bras:

ABERGWAUN Y BAW A'R GWYNT

Yn anffodus, dyna grynhoi'r cof cyhoeddus am y Brifwyl honno yng ngogledd Penfro yn 1986. Mae gan lawer atgofion hyfryd am gyfarfodydd llewyrchus y Babell Lên, am hwyl y gweithwyr lleol er gwaethaf pob anhawster a sawl stori i'w hadrodd am y nosweithiau da. Ond y stormydd, y gwynt a'r glaw, y mwd a'r llaid - a hwch Machraeth - a gipiodd y penawdau. Ystyriwch yr enw `Abergwaun' a beth am geisio llunio penawdau eraill a fyddai'n cyfleu nodweddion eraill yr Eisteddfod honno. Mae'r gair ei hun yn un o'r eithriadau hynny - mae'n air lluosill ac yn diweddu'n acennog:

AbergwAUn
 b rg : n

Gallwn ei ateb yn gytbwys acennog (fel yr enghraifft `Abergwaun y baw a'r gwynt') gan roi enw'r dref yn rhan gyntaf neu'n ail ran y llinell, neu ei hateb yn anghytbwys ddisgynedig gan roi gwaun yn orffwysfa a chael prifodl ddiacen fel gwenwyn, genau, gwenith, gannoedd, gynnes, gwinoedd, ganu, ugeiniau, gwahanol ac yn y blaen. Dyma ichi rai enghreifftiau posibl:

BRI AR GERDD YN ABERGWAUN
ABERGWAUN Y BERW GWYCH
HWB I'R GÂN YN ABERGWAUN
ABERGWAUN A'I BRO GYNNES
BWRW I'R GWIN YN ABERGWAUN
ABERGWAUN MOR BÊR EI GW^YL

Ewch ati i lunio mwy - a gorau i gyd os medrwch gadw rhyw naws Eisteddfodol yn ei holl amrywiaeth - i'r llinellau. Mae pum llinell o gynghanedd Groes ac un Draws yn yr enghreifftiau uchod - ar y cyfan mae'r rheiny'n gwneud gwell penawdau papur newydd. Gall cynghanedd Sain weithio ar brydiau ond ceisiwch osgoi'r gynghanedd Lusg am y tro.

Wedi dihysbyddu'r w^yl honno, gadewch inni fynd yn ein blaenau at yr Eisteddfodau a ddilynodd gan greu mwy o benawdau. Ym Mhorthmadog yr oedd hi yn 1987. Y tro hwn, gallwn lunio llinell gytbwys ddiacen gyda'r enw `Porthmadog' yn y rhan gyntaf neu'r ail ran neu gallwn lunio llinell anghytbwys ddisgynedig gyda'r enw'n ffurfio acen y brifodl. Mae'r dewis ychydig yn fwy cyfyngedig y tro hwn, ond dyma rai geiriau a all fod o gymorth: mwd, mud, medi, mwydo, modern, meudwy. Cofiwch hefyd am y treigliadau - `ym mhydew', `ym mhwdin', `ym mhader' a chyfuniadau posibl fel `am waed', `am hydoedd', `mae hyder' ac ati.

Casnewydd oedd cartref Prifwyl 1988. Mae'r acen ar y llafariaid yn yr enw hwn a rhaid cofio hynny wrth geisio canfod acen arall i'w chyfateb, er engraifft:

NOSON WIW YNG NGHASNEWYDD
IAS I NI YNG NGHASNEWYDD

Fyny am Lanrwst, yn Nyffryn Conwy ar ôl hynny - mae `Llanrwst' eto yn diweddu'n acennog a dylai `Conwy' fod yn ddigon syml ichi ei ateb erbyn hyn.

Yn 1990, yng Nghwm Rhymni y cynhaliwyd yr w^yl ac mae'r mn yng nghanol Rhymni yn ei wneud yn enw anodd iawn ei ateb yn gytseiniol. Gadewch inni droi at gynghanedd Sain am y tro, felly, gan leoli'r enw yn y rhagodl neu'r orodl. Mae digon o ddewis ar gael ichi o safbwynt yr odl i.

CWM RHYMNI Y MIRI MAWR
MIRI CWM RHYMNI'N YR HAF

Mae'r Wyddgrug eto yn enw anodd ei gynganeddu'n gytseiniol am fod y clymiad ddgr yng nghanol y gair. Un ffordd o ddod dros anhawster felly yw ffrufio geiriau cyfansawdd (hynny yw, rhoi dau air yn sownd yn ei gilydd er mwyn creu gair newydd), er engraifft mae `newydd' a `grêt', o'u cydio yn ei gilydd yn rhoi'r gair `newyddgret' gyda'r acen ar yr -yddgret. Fe ellid cael cynghanedd (drwsgl iawn!) tebyg i hyn:

NEWYDDGRET W^YL YR WYDDGRUG

Y dewis arall yw llunio cynghanedd Sain e.e.

YR WYDDGRUG A'I DIWYG DA

O Glwyd i lawr i Geredigion i Eisteddfod Aberystwyth yn 1992 -

AR HAST I ABERYSTWYTH

A lle gawsoch chi lety yno?

HOSTEL YN ABERYSTWYTH

Yna, i Faesyfed i Brifwyl Llanelwedd:

LLAWN HWYL FU HI'N LLANELWEDD
LLAWEN W^YL YN LLANELWEDD

Yno y cafwyd yr awdl afieithus ar y testun `Gwawr':

LLANELWEDD LLAWN O OLAU

Ar ôl 1993, rhaid troi am Gastell Nedd, Bro Colwyn, Llandeilo, y Bala a Phen-y-bont - a dyma hen ddigon o dasgau am y tro!

Y tudalennau chwaraeon

Mae golygyddion y tudalennau chwaraeon yn hen lawiau ar chwarae ar eiriau a chwarae ar enwau rhai o'r sêr. Gallwn ninnau wneud yr un peth ar gynghanedd - ac er mor ddieithr ac estron yw rhai o enwau'r pencampwyr hyn, mae'n bosibl eu cynganeddu'n rhyfeddol:

BOYCOTT YN CICIO'R BWCED
RYAN GIGGS: TARAN O GÔL
CAMPUSWIB GAN CAMPESI
SLAM I WOOSNAM MEWN UN
YN Y BATH EFO BOTHAM
DEWINIAETH MARADONNA
BRISTOW YN COLLI'R BRASTER
AI BRUNO FYDD Y BRENIN?
ANAFU IEUAN EVANS

Ceisiwch chithau lunio mwy o benawdau gyda'r enwau uchod a dyma restr o enwau eraill ichi feddwl drostynt: Gazza, Ballesteros, Ian Rush, Tyson, Mansell, Scot Gibbs, Pigott, Navratilova.

Y dudalen flaen

AREST YN ABERYSTWYTH
CRIW DA YN RALI CAERDYDD
TROELLWYNT YN TARO'R TRALLWM

Mae enwau lleoedd o bob rhan o'r byd yn llenwi penawdau'r newyddion yn gyson. Er mor ddieithr yw rhai ohonynt, mae modd eu cynganeddu hwythau, dim ond penderfynu ble mae'r acen yn disgyn. Yn Saesneg, nid yw'r acen i'w chlywed mor eglur ag yn y Gymraeg a rhai ieithoedd Ewropeaidd eraill, felly rhaid Cymreigio'r ynganiad. Er enghraifft, bydd Saeson yn tueddu i acennu'r sillaf gyntaf: Manchester, Hollywood, Birmingham. Wrth i ni, Gymry, ynganu'r rhain, byddwn yn newid a chryfhau'r acen: Manchester, Holly-wood, Birmingham. Er mwyn cynganeddu, rhaid defnyddio acen Gymreig i'r enwau Saesneg - ond does dim trafferth o gwbl gydag enwau yn y rhan fwyaf o ieithoedd eraill gan eu bod yn acennu'n debyg i'r Gymraeg: Riviera, Santa Rosa, Wanganui, Katmandu, Guyana, Barcelona, Amsterdam, Paraguay.

Mae rhai o'r enwau hyn yn diweddu'n acennog. Gyda'r rhai sy'n diweddu'n ddiacen, lluniwch gynganeddion Llusg i ddechrau arni cyn mynd ati i lunio Croes, Traws neu Sain â phob un ohonynt.

Beth am benawdau i'ch papur bro - lluniwch gynganeddion yn seiliedig ar enwau trefi a phentrefi eich ardal chi.

Neu beth am benawdau i ddigwyddiadau cyffrous yn hanes Cymru:

RHUFEINIAID AR Y FENAI
EILUN Y DORF YN GLYNDW^R
ANRHEFN AR STAD LORD PENRHYN

Creu cwpledi

Dwy linell seithsill o gynghanedd, gydag un llinell yn diweddu'n acennog a'r llall yn ddiacen - dim ots am y drefn, cyn belled nad oes cynghanedd Lusg yn yr ail linell - dyna yw cwpled o gywydd. Dim ond pedair sillaf ar ddeg a geir ynddo i gyd - does dim llawer o le i ddweud fawr ddim mewn mesur mor fyr. Eto, mae'n rhyfeddod bod cymaint wedi'i grynhoi i gyn lleied o eiriau mewn cwpledi Cymraeg ar hyd y canrifoedd. Mae rhai cwpledi yn ddiarhebion yn yr iaith erbyn hyn a gelwir gwirionedd cyffredinol sydd wedi'i fynegi'n ddiwastraff ar fydr ac odl yn epigram. Dyma rai epigramau ar fesur cywydd:

Ni phery stad na phwrs dyn
na'i gywoeth fwy nag ewyn. (Guto'r Glyn)

A fo gwan genfigennwr,
hir yn was a hwyr yn w^r. (Lewis Glyn Cothi)

A dyfo o bendefig,
a dyf o'i wraidd hyd ei frig. (Dafydd Nanmor)

Hysbys y dengys pob dyn
o ba radd y bo'i wreiddyn. (Tudur Aled)

Gwell i w^r golli'i arian
na cholli gweddi y gwan. (Wiliam Lly^n)

Ifanc, ifanc a ofyn;
henaint, at henaint y tynn. (Sion Phylip)

Mae'r cwpled olaf yn ein hatgoffa o wirionedd sydd wedi'i gostrelu mewn hen ddihareb Gymraeg yn ogystal -

adar o'r unlliw hedant i'r unlle

ac mae'n ddigon posibl y medrwch chithau ganfod diarhebion neu benillion eraill sy'n dweud yr un peth yn y bôn â rhai o'r cwpledi hyn, dim ond ei ddweud mewn ffordd wahanol.

Creu darluniau newydd gyda geiriau newydd i hen, hen ddoethineb a wneir drosodd a throsodd. Mae modd i ninnau geisio efelychu hyn drwy fenthyca gwirionedd o rai o ddiarhebion cynhenid y Gymraeg. Dyma ichi ddetholiad i ddewis ohonynt:

A ddwg w^y, a ddwg fwy.
A fo ben, bid bont.
Amlwg llaid ar farch gwyn.
Buan ar farch, buan i'r arch.
Cadw ci a chyfarth fy hunan.
Dyfal donc a dyrr y garreg.
Gorau prinder, prinder geiriau.
Hawdd cynnau tân ar hen aelwyd.
Nid aur yw popeth melyn.
Tew y beiau lle tenau'r cariad.

Mae patrwm `a ddwg w^y a ddwg fwy' yn un syml i'w ddynwared mewn cynghanedd. Fedrwch chi ychwanegu at y rhestr hon tybed:

a ddwg fawn a ddwg fynydd
a ddwg lain a ddwg y wlad
a ddwg geiniog 'ddwg ganwaith
a ddwg weiryn 'ddwg erw.

O chwilio am bartneres i odli ag un o'r llinellau hyn, gan gofio bod rhaid i un ddiweddu'n acennog a'r llall yn ddiacen, byddai gennym gwpled cywydd.

Bachddwyn yn fawrddwyn a fydd -
a ddwg fawn, a ddwg fynydd.

Gwan yw ef a ddwg un waith -
a ddwg geiniog 'ddwg ganwaith.

Gadewch inni ystyried enghraifft arall - `cadw ci a chyfarth fy hunan'. Er mwyn aralleirio hen wirionedd, mae'n rhaid cael geiriau newydd. Geirfa eang yw un o hanfodion meistrolaeth ar gerdd dafod. Mae modd newid y llun er mwyn ehangu'r dewis o eirfa, er engraifft yn lle cael ci/cyfarth, beth am tarw/rhuo; Fferari/cerdded; garddwr/chwynnu ac yn y blaen. Fedrwch chi weithio ar y geiriau hynny. Hidiwch befo am eiriau llanw a cheisio curo'r ddihareb wreiddiol - mae'n amhosib creu dim fydd cystal â'r hen wirebau hyn, ond o leiaf mae'n gyfle i geisio dod â sw^n a synnwyr ynghyd i'ch llinellau cynganeddol. Beth am:

Talu am gael Rotweilar,
ond mae sw^n hwnnw'n rhy wâr.

O mor wael, fe ddaeth im rhan
hen swsiwr o Alsêshan.

Rhoi arian am Fferari
ond ar feic am dro'r af i.

O gael gafael ar eiriau fel Rotweilar, Alsêshan a Fferari, mae modd adeiladu cwpledi o'u cwmpas. Ceisiwch chithau feddwl am eiriau newydd yng nghyd-destun y diarhebion eraill yn y rhestr uchod, yna creu llinell ac yna ei hateb er mwyn creu cwpled gan gadw'r sylwgarwch sydd yn y ddihareb wreiddiol yn eich cof.

Dyfalu

Mae disgrifio gwrthrychau fel march, uchelwr, gwallt merch, eira, hebog, cw^n hela yn hen gelfyddyd mewn barddoniaeth Gymraeg. Gwneir hynny yn aml drwy dynnu lluniau o wrthrychau eraill gyda geiriau a cheisio creu un darlun drwy gyfrwng nifer o luniau. Mae'n rhaid wrth ddychymyg byw a llygad graff i wneud hynny a'r term am y math afieithus hwn o ddisgrifio mewn barddoniaeth yw dyfalu. Roedd yr hen gwyddwyr yn bencampwyr ar y grefft:

Dwyglust feinion aflonydd,
dail saets wrth ei dâl y sydd. (Tudur Aled i'r march)

Ai plisg y greuen wisgi,
ai dellt aur yw dy wallt di? (Dafydd Nanmor i wallt Llio)

Sêl a dawn Is Aled oedd,
swllt aur dros ei holl diroedd. (Tudur Aled i uchelwr)

Bugail ellyllon bawgoel,
bwbach ar lun mynach moel. (Dafydd ap Gwilym i'w gysgod)

Trwy Wynedd y trywenynt,
gwenyn o nef, gwynion y^nt. (anhysbys i'r eira)

Ail y carw, olwg gorwyllt,
a'i draed yn gweu drwy dân gwyllt. (Tudur Aled i'r march)

Nïwl o gylch canol gên,
nyth anadl yn eithinen. (Lewys Glyn Cothi i'w farf)

Dulas ydyw'r dail sidan,
duwyrdd a meillionwyrdd mân. (Deio ab Ieuan Du i'r paen)

A'i fwng yn debig ddigon
i fargod ty^, neu frig ton. (Guto'r Glyn i'r march)

Lliw eu cyrff hwy fal mwyar,
Lliw ewyn gwyn ar bob gwar. (Huw Cae Llwyd i ddau filgi)

Dy wyneb fal od unnos,
dy rudd fel cawod o ros. (Dafydd ab Edmwnd i ferch dlos)

Mae defnyddio natur, y tywydd a'r tymhorau yn rhan o grefft bardd i ddyfalu a darlunio teimladau dyfnaf dyn. Weithiau deuir â dau fath o dywydd at ei gilydd i'r un cwpled gan greu gwrthgyferbyniad trawiadol. Wedi colli uchelwr o bwys, meddai Tudur Aled:

Haul oedd bob heol iddo,
niwl a fydd yn ei ôl fo.

Mewn cywydd arall, mae'r un bardd yn dyfalu ei hiraeth a'i alar i oerfel a rhynwynt gaeafol sy'n chwythu o bob cyfeiriad ac yntau'n methu â chynhesu dim:

Gorllewin, - garw y lliwynt,
gogledd oll, - gwagleoedd y^nt;
Dwyrain, deau a oeres,
darfu 'mron drwof am wres;
ni thynn na gwin na thân gof
ias Ionor y sy ynof!
Man nid oedd im annwyd i,
mae'r ia'n treiddio 'mron trwyddi.

Mae crefft y dyfalwr yn fyw ac yn iach o hyd wrth gwrs. Mae rhai o'r dyfeiswyr sy'n llunio hysbysebion ar gyfer papurau, cylchgronau a theledu yn meddu ar raff go hir o ddychymyg a dweud y lleiaf. Ond pam na ellir defnyddio'r gynghanedd i hysbysebu? Mae hynny eisoes yn digwydd, debyg iawn - agorwch sawl papur bro a bydd englyn neu gwpled i'w weld mewn amryw o hysbysebion. Dyma ffordd go wreiddiol a chwbl Gymreig o hysbysebu nwyddau neu wasanaeth:

Hysbyseb cig oen Cymru
Hysbyseb Swyddfa'r Post Mynytho
Hysbyseb Abel Williams a'i Fab, Talafon

Does dim rhaid ei gadael hi yn y fan honno chwaith. Gallwn wneud rhestr o'r nwyddau sy'n cael eu hysbysebu'n gyson ar y sgrîn fach ac yna mynd ati i lunio cwpledi pwrpasol. Ond yn gyntaf, mae'n rhaid inni gael digon o eiriau at ein galw. Felly rhaid dewis testun a chrynhoi'r math o eirfa a ddefnyddir fel arfer wrth hysbysebu'r nwydd hwnnw. Wedi gwneud hynny, byddwn yn barod i'w cynganeddu a'u hodli.

Lager

Geirfa bosibl: nectar, mêl, heulwen, aur, Ostrêlia, pelydrau, llwnc, syched, melfed, llyfn, sidan, gwddw, ffynnon, anialwch, melyn, peint, gwên, hyfryd, haf, oer, hir.

Cwpledi posibl:

Rhannu'i Awst a'i aur a wna,
Awst yr haul o Ostrêlia.

O'i gael y llwnc 'glyw wellhad
a llesol yw'r arllwysiad.

Os achwyn wyt o syched,
wele frawd i felfared.

Un i gynnal y galon,
un llwnc i dy wneud yn llon.

Lliw mêl mewn llam o heulwen,
daw'r haf drwy belydrau'i wên.

Mae'n siw^r y medrwch chithau gael ysbrydoliaeth i ychwanegu at yr eirfa a'r cwpledi hyn. Yna, ewch ymlaen i wneud yr un peth gyda'r hysbysebion isod.

Car

Geirfa bosibl: cyflymder, mellten, gwib, gwennol, metel, steil, cryf, nerthol, sbîd, siapus, llyfn, esmwyth, cyfforddus, crand, pwerus, cornelu, cadarn, diogel, castell, amddiffyn, teulu, rhad, rhedeg.

Shampw^

Geirfa bosibl: blodau, meillion, lili, persawrus, nant y mynydd, rhosyn, anwes, dw^r, croyw, gloyw, braf, clir, gofal, tyner, meddal, steil, siap, edrychiad, golwg, cyffwrdd, teimlad.

Coffi

Geirfa bosibl: cryf, cyfoethog, blas, deffro, bore, clirio, clywed, tarth, arogl, cynnes, berwi, mwynhad, atgyfnerthu, dihuno, trefn, paned, mwg, gwynt, tân.


y wers flaenorol cynnwys y wers nesaf

addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch