cynnwys y wers gyntaf


Cyflwyniad Myrddin ap Dafydd
i gwrs Clywed Cynghanedd

Mae mwy na dim ond ystyr yn unig yn perthyn i eiriau - mae sain, acen a blas arbennig yn rhan annatod o bob gair ac mae cyfuniad addas ohonynt yn creu cynghanedd i'r glust yn ein hiaith bob dydd. Fel y mae 'na alaw mewn afon a miwsig mewn coed, mae cynghanedd yn perthyn i eiriau y tu allan i ffiniau barddoniaeth ymwybodol, ffurfiol yn ogystal. Does dim ond rhaid adrodd ychydig enwau lleoedd yn uchel i sylweddoli hynny: Llanllawen, Cwm Cywarch, Mynydd Melyn, afon Alaw a Llanfihangel Genau'r Glyn. Pan fyddwn ni'n sôn am gael cinio cynnar, am brynu a gwerthu gwartheg, am rywun sy'n un gwirion yn ei gwrw, yn codi llaw a chyfarch hwrê rw^an! neu'n sibrwd wsti be yn ddistaw bach? neu'n trafod y diwrnod dyrnu neu ofyn am hanner o lager a leim, rydan ni'n cynghaneddu geiriau, heb sylweddoli weithiau ein bod yn gwneud hynny.

Yn yr ysgol, mewn ymryson neu dalwrn y beirdd neu wrth drafod cerdd y gadair, mae tuedd inni weithiau sôn am y gynghanedd a'r mesurau caeth a'r rheolau, sef cerdd dafod (cerdd = crefft), fel petai'r cyfan yn rhyw gyfrwng sydd wedi'i ddyfeisio. Rhyw fath o gêm gaeth gyda geiriau. Ond dydi hynny ddim yn wir - nid cael ei chreu a wnaeth y gynghanedd ond cael ei chanfod. Mae'n rhan gynhenid o'r iaith Gymraeg, yn perthyn i batrymau plethiad ein geiriau.

Mae hanes y Gymraeg - a hanes barddoniaeth yr iaith - yn cychwyn yn y chweched ganrif. Ond roedd y traddodiad eisioes yn hen bryd hynny - mae ysgolheigion yn dweud bod traddodiad Celtaidd o farddoni yn ymestyn o leiaf fil o flynyddoedd cyn hynny. Roedd gan y Celtiaid dynfa at addurniadau celfydd yn eu cerfluniau a'r un dychymyg oedd ar waith mewn barddoniaeth lafar Geltaidd. Yr un dychymyg sydd ar waith o hyd mewn barddoniaeth Gymraeg dwy fil o flynyddoedd yn ddiweddarach. Roedd gan y Celtiaid dynfa at ddefnyddio geiriau yn greadigol yn ogystal, gyda phwyslais ar gadw'r cyfan ar gof. Oherwydd hynny, roedd elfennau'r gynghanedd yn ddefnyddiol - yn driciau i gynorthwyo'r cof ac yn gyfrwng i greu patrymau melys i'r glust, gan gario'r geiriau drwy'r glust i'r galon.

Gall cynghanedd ddigwydd ar fympwy, yn ddamweiniol, fel y gwelson uchod - ond nid pawb ohonom sy'n gallu clywed clec y gynghanedd honno. Mae'n rhaid meinhau'r glust - a gorau po feinaf. Yn raddol, drwy wahanol gyfnodau o ganu Cymraeg, datblygodd cerdd dafod yn gyfundrefn o reolau manwl ac, yn y dyddiau fu, roedd rhaid i feirdd fwrw prentisiaeth o naw mlynedd i ddysgu ei crefft. Yr hyn ddigwyddodd oedd fod gwahanol feirdd wedi sylwi ar y gynghanedd naturiol oedd yn digwydd mewn gwahanol glymiadau o eiriau ac wedi mynd i'r afael â hi oherwydd ei harddwch a'i hud. Aethant ati i wisgo pob math o ddilladau drud a thlysau crand am y prydferthwch naturiol hwn oedd yn yr iaith - ac, o nabod y beirdd, gellwch fentro iddynt fynd dros ben llestri ambell waith!

Ond, drwy hyn i gyd, ffurfiwyd system gaeth o gynghaneddu geiriau a phedwar mesur ar hugain. Mae'n unigryw drwy'r byd i gyd. A'r rhyfeddod pennaf yw bod modd canu'n llyfn a syml ar gerdd dafod, er gwaetha'r holl rwystrau sydd ar y dechrau yn ymddangos yn ddychrynllyd o stiff ac anhyblyg. Lle bynnag y bo carchar, y mae hefyd dwll dianc.

Er bod y gynghanedd wedi'i fferru i raddau ers y bymthegfed ganrif, bu panel o dan adain Barddas, y Gymdeithas Gerdd Dafod yn trafod a diweddaru rhai o'r rheolau yn sgîl newidiadau a fu yn yr iaith lafar ers hynny. Os nad yw cynghanedd yn gweithio i'r glust, dydi hi ddim yn gweithio o gwbl - felly, os bydd unrhyw amheuaeth yn codi, y glust piau'r gair olaf.

Ers talwm, roedd dysgu cerdd dafod yn golygu dysgu am ramadeg a natur yr iaith Gymraeg yn ogystal. Rhaid cynefino â'i geirfa, ei theithi, ei chystrawen a'i phriod-ddulliau. Heb feistrolaeth lawn ar yr iaith, ni ddaw neb i gynghaneddu'n rhwydd iawn. Ond, ar y llaw arall, mae astudio'r gynghanedd yn gymorth i ddysgu llawer am yr iaith ei hun yn ogystal.

Y `twll dianc' mwyaf sydd gan unrhyw un sydd am ei fynegi ei hun ar gynghanedd - neu unrhyw gyfrwng llenyddol arall, a dweud y gwir - yw geirfa. Mae geirfa helaeth yn hanfodol a rhaid i bawb sy'n ymarfer y grefft ddarllen yn gyson, geiriadura, clywed a chofnodi geiriau llafar a sylwi ar yr iaith, a chael blas arni.

Mae'n bwysig nodi ar y dechrau fel hyn hefyd fod gwahaniaeth rhwng cynganeddu a barddoniaeth. Cledrau a lein y rheilffordd ydi'r gynghanedd - llwybr ar gyfer y meddwl, y synhwyrau a'r dychymyg. Ond y trên ei hun sy'n teithio ar y trac hwnnw yw'r farddoniaeth. Paratoi pridd yr iaith y mae cerdd dafod; yn yr hadau y mae'r farddoniaeth. Nid dysgu sut i farddoni a wna unrhyw un sy'n astudio'r gynghanedd, felly, ond dysgu am elfennau'r grefft - dysgu am y gwaith caib a rhaw.

Boed chwaraewr rygbi neu bysgotwr; boed saer coed neu saer geiriau, mae'n rhaid i bob dawn ddysgu hanfodion y grefft sy'n perthyn iddi yn gyntaf. Yn y Gymraeg, mae gennym ddau air cyfleus ym myd cerdd dafod sy'n gwahaniaethu rhwng y grefft a'r gelfyddyd. Prydydd yw'r un sydd wedi dysgu ei grefft, sef prydyddiaeth, ac yn medru ei thrin yn lân, yn gywir ei drawiad, yn daclus ei fynegiant a chofiadwy ei gân. Mae bardd ar y llaw arall wedi magu adenydd - mae wedi meistroli ei grefft i'r fath raddau fel nad ydym yn sylwi arni. Mae'n ein codi i'w entrychion ei hun - y maswr hwnnw sy'n rhedeg dros ddaear y cae yn hytrach nag arni fel pob chwaraewr cyffredin. Mae modd dysgu unrhyw un i fod yn brydydd, ond mae bardd yn cael ei awen o rywle arall.

Mae cynghanedd, er engraifft, yn y llinell Dydd Gwener a dydd Sadwrn - cynghanedd wan fel te Tjeina, mae'n rhaid cyfaddef, ond mae'n un o'r posau llafar gwlad rheiny sy'n troi ymysg y rhai sy'n ymddiddori yn y grefft. O'r gorau, efallai bod cynghanedd ynddi, ond does yna affliw o ddim barddoniaeth ynddi. Ar y llaw arall, mae pennill o'r gân sobri honno sydd hefyd yn rhestru dyddiau'r wythnos yn llwyddo i ddod â rhywbeth ychwanegol i'r dweud wrth sôn am Ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher. Mae adeiladu at uchafbwynt ynddi a chyflead o aruthredd y sbri. Er nad oes cynghanedd ynddi, mae modd dadlau bod yna farddoniaeth yn y llinell honno.

Digon am hynny. Canolbwyntio ar gyfansoddi llinellau o gynghanedd nid llinellau o farddoniaeth a wnawn ni yn y gwersi hyn. Gosod traciau i lawr a chodi ambell steshon, gobeithio. Hei lwc na chawn ni hwyl hefyd ynghanol y llafur - a phwy a w^yr na ddaw ambell drên heibio inni cyn inni orffen y gwaith.


cynnwys y wers gyntaf

addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch