cyflwyniad cynnwys y wers nesaf
Beth ydi'r gwahaniaeth rhwng y papur arholiad Cymraeg a'r papur arholiad coginio? Yn y papur arholiad coginio, bydd y disgybl yn cael risêt sgon ac yna yn cael cyfle i wneud rhai; yn y papur Cymraeg, bydd y disgybl yn cael llond platiad o Groes o Gyswllt i'w dadansoddi. Creu â'ch llaw eich hunan yn y wers goginio ond studio sgons sydd wedi'u creu gan rywun arall yn y Gymraeg. Yn y gwersi hyn, fodd bynnag, bydd y pwyslais ar lunio llinellau, nid ar eu datod. Er hynny, yn naturiol, bydd dysgu llawer o dermau technegol yngly^n â'r grefft yn hanfodol. Cystal inni gychwyn gyda rhai o'r rheiny.
Mae pedwar prif fath o gynghanedd - Croes, Traws, Sain a Llusg. Mae tair o'r cynganeddion hynny yn defnyddio elfen o gytseinedd (ailadrodd y cytseiniaid) a dwy yn defnyddio elfen o odl (ailadrodd y llafariaid a'r cytseiniaid). A dyma ddod at wy^r traed yr iaith, sef at y llythrennau sy'n rhannu yn ddau ddosbarth - cytseiniaid a llafariaid. Dyma gig a gwaed yr iaith - y cytseiniaid yw'r cnawd y medrwn ei deimlo ond y llafariaid yw'r gwaed sy'n rhoi bywyd i'r cyfan.
Y cytseiniaid Cymraeg yw:
b c ch d dd f ff g ng h j l ll m n p ph r rh s t th
Mae'n rhaid derbyn bod y j dramor mor Gymreig â jam mafon duon bellach. O safbwynt cytseinedd, sef ateb ei gilydd, mae ff a ph yr un sain yn gywir i'r glust, felly maent yn cyfateb ei gilydd o fewn rheolau'r gynghanedd yn ogystal.
Y llafariaid pur yn y Gymraeg yw:
a e i o u w y
Un sain sydd gan bob llythyren yn y Gymraeg ar wahân i'r llafariad y:
Erbyn heddiw, mae sain yr y olau a sain y llafariad u yr un fath â'i gilydd ac mae o fewn y rheolau iddynt gyfateb ei gilydd mewn odl.
Mae dau fath o lafariaid pur:
Siar-ad-wch fel Dal-ec ac fe fed-rwch gyf-ri sawl sill-af sydd mewn geir-iau. Uned o sw^n ydi sillaf. Gall sillaf fod mor fyr ag un llythyren yn unig, er engraifft a, i, o, sy'n eirynnau unsill ar eu pennau eu hunain neu'n sillafau unigol mwen geiriau fel epa, stori, heno. Gall sillaf hefyd gynnwys pum neu chwe llythyren, er engraifft stranc, ond fel y gwelwch rhaid cael o leiaf un llafariad i gynnal y sillaf. Mae rhai geiriau yn unsill:
pâr, llyn, serch, bae, byw, clwyf
Mae rhai geiriau yn ddeusill:
siar-ad, pen-i, byw-yd, clwyf-o, merch-ed
A cheir geiriau hwy na hynny hefyd. Geiriau lluosill yw'r rhain:
am-aeth-yd-iaeth, par-ad-wys, prof-ed-ig-aeth, at-gof-ion
Mae 'na ambell gymeriad sy'n rhy wahanol i ffitio i unrhyw ddosbarth yn daclus a rhyw gêsyn felly ydi'r llythyren w yn y Gymraeg.
Mewn rhai geiriau, bydd yn ymddwyn fel llafariad, ac yn cynnal sillaf gyfan ar ei phen ei hun:
gwn, trwm, cwlwm, rw^an
Mewn geiriau eraill bydd yn lled-lafariad, yn ymddwyn fel cytsain a llafariad i raddau - yn cynnal sillaf gyfan fel rhan o ddeusain ac eto'n cadw dipyn o gymeriad caled y cytseiniaid, er engraifft mae cyn gywired a chyn hawsed dweud llaw y dyn a llaw'r dyn.
Ond mae w hefyd yn ymdwyn fel cytsain, hynny yw, nid yw'n cynnal sillaf gyfan ond yn bodoli fel rhan o glymiad o gytseiniaid. Yn y gair gwlad, un sillaf sydd gennym - gwlád, nid dau gyda'r w yn creu sw^n tebyg i hyn - gwl-ád. Dyma'r w gytsain neu'r w ansillafog:
gwraidd, gwrando, gwledydd, gwneud, chwerwder, derwgoed.
Ar lafar mae w ac f yn cyfnewid yn aml - tywod medd rhai, ond tyfod a ddwed eraill; gwddf yw'r ffurf lenyddol, ond gwddw yw'r ffurf lafar; gorwedd a gorfedd, pythefnos a pythewnos yr un modd, ac mae brecfast yn troi'n frecwast yn y Gymraeg. Ar un adeg roedd geiriau gel marw, garw, meddw, cwrw, twrw ac ati yn cael eu hystyried yn unsill gan y beirdd am eu bod nhw'n cyfri'r w fel cytsain yn y geiriau hynny. Erbyn heddiw, mae'r glust yn dweud wrthym mai geiriau deusill ydynt ac mae rheolau cerdd dafod yn erbyn hynny bellach.
Nodwyd eisioes bod cytseinedd yn un nodwedd o'r gynghanedd. Hanfod cytseinedd yw bod yr un cytseiniaid yn cael eu hailadrodd o fewn un llinell. Mae hyn yn digwydd yn achlysurol mewn canu rhydd yn ogystal, wrth gwrs, ac mae defnydd helaeth o hynny i'w glywed mewn canu roc a chanu cyfoes Cymraeg y dyddiau hyn. Gwrandewch ar y rhain:
Mae llais y lli mor las â Lapis Lazwli (Meic Stevens)
Gwenan yn y Gwenith (Beganîfs)
Mardi-gras ym Mangor Ucha' (Sobin a'r Smaeliaid)
Yn Santiago yn saith-deg-tri (Dafydd Iwan)
Gwrandewch ar effaith y gytseinedd ym mhenill cân Victor Chara gan Dafydd Iwan - Santiago, saith-deg-tri, stadiwm, Santiago, saith-deg-tri. Yna, o fewn llinellau'r cytgan - canodd ei gân... heriodd y gynnau â'i gitâr... Mae patrymau sain yn gweu drwy'i gilydd, yn cynnal acenion y llinellau, yn apelio at y glust ac yn dod â'r neges adref i'r galon.
Mae'n hiaith bob dydd yn frith o engreifftiau o gytseinedd -
lle llawn,
bara beunyddiol,
yn fân ac yn fuan,
chwinciad chwannen.
Mewn prydyddiaeth, mae ailadrodd sw^n tebyg yn gymorth ac yn ganllaw i'r cof, ond gall hefyd roi naws a chynorthwyo i gyfleu ystyr y gerdd. Yn ei emyn mawr, mae Lewis Valentine yn sôn am crindir cras ac mae'r gytseinedd cr/cr yn crafu'r gwddw wrth ei chanu. Pan ddywed R. Williams Parry am lygaid Hedd Wyn, y llygaid na all agor, mae'r gytseinedd yn llusgo'r sain ac yn cyfleu rhyw lonyddwch mawr.
Dull arall o apelio at y glust yw creu odl. Mae odl (yn y Gymraeg) gyflawn yn digwydd pan fo llafariaid a chytseiniad olaf gair yr un fath:
cath / math,
mafon / duon,
pren / llen,
sterics / brics.
Rhaid i'r llafariaid fod yr un pwysau a'i gilydd. Rydym eisioes yn gyfarwydd â llafariaid trwm ac ysgafn ac nid yw'r naill yn medru odli â'r llall. Mae cân a tân yn odli, felly hefyd brân, ar wahân, glân, mân. Ond nid ydynt yn odli â gwan, glan, man, llan nac All Bran. Byddai hynny'n chwithig i'r glust ac yn euog o'r bai trwm ac ysgafn. Mae cân yn ysgafn ac All Bran yn drwm. Peidiwch â'u cymysgu!
Mae odli yn apelio atom o oedran cynnar iawn. Bydd plant mân wrth eu boddau gydag unrhyw hwiangerdd lle bydd yna chwarae amlwg ar seiniau cyfarwydd. Mae pob Jac y Do/ho, ho, ho yn denu ymateb y glust heb unrhyw drafferth.
Ymhen amser, mae'n clustiau yn meinhau a gallwn werthfawrogi odl gynilach sef odl rhwng dau air deusill neu luosill. Mae'r hen benillion telyn yn llawn odlau o'r fath:
Hiraeth mawr a hiraeth creulon,
Hiraeth sydd yn torri 'nghalon;
Pan fwyf dryma'r nos yn cysgu,
Fe ddaw hiraeth ac a'm deffry.
Y rheswm pam fod Jac y Do/ho, ho, ho yn odl amlycach i'r glust na cysgu/deffry yw fod Do/ho yn sillafau acennog. Y pwyslais y mae siaradwr yn ei roi ar air unsill neu ar un sillaf mewn gair o fwy nag un sillaf yw acen. Mae'r acen yn disgyn yn naturiol ar y rhan fwyaf o eiriau unsill, ond ceir rhai eithriadau - geirynnau gwan fel y, fy, dy, ei, a, ac ac yn y blaen. Mewn geiriau o fwy nag un sillaf, mae'r acen fel arfer yn y Gymraeg yn disgyn ar lafariad y sillaf olaf ond un, sef y goben:
can-u,
car-ed-ig,
cyt-un-o,
diw-edd.
Ond oes, mae rhai eithriadau debyg iawn. Mae rhai geiriau deusill a lluosill yn diweddu gyda sillaf acennog:
isel-hau,
Cym-raeg,
can-ga-w^,
par-had.
Eithriadau ydynt - unwaith eto, gwrandewch ar y glust.
Wrth gael ein cyflwyno i'r acen, rydym yn cyrraedd at galon y gynghanedd ei hun. Addurno a thynnu sylw at acenion llinell drwy gyfrwng odl a chytseinedd yw hanfod cerdd dafod - mae adnabod a chlywed yr acen yn hanfodol ac unwaith y bydd rhywun wedi meistroli hynny, bydd popeth arall yn disgyn i'w le.
Weithiau bydd sillaf diacen yn odli â sillaf acennog mewn mesur. Gall ddigwydd mewn triban:
Mi weddïa beunydd
Ar roddi i chwi lawennydd,
I droi ych tir i ddodi had
Yn rhwydd o'ch arad newydd.
ac mae'n digwydd ym mhob cwpled cywydd:
Y bore mi a barwn
dorri 'ngwallt fel godrau 'ngw^n
ac esgid mi a'i gwisgwn
un big ag aderyn y bwn.
Dyfyniad o gywydd gan Dafydd Nanmor yn sôn amdano'i hun yn ymdrwsio mewn dillad ffansi i fynd â'i gariad i'r ffair yw'r pedair llinell uchod ac mae'n anarferol am fod y ddau gwpled yn dilyn ei gilydd ar yr un odl. Ond mae'n werth sylwi ar rywbeth arall hefyd. Mae barwn/gwisgwn yn odli, tydy 'ngw^n/bwn ddim yn odli (trwm ac ysgafn). Serch hynny, gall 'ngw^n odli â barwn a gwisgwn a gall bwn wneud yr un modd. Nid yw'r bai trwm ac ygafn yn bodoli mewn odl rhwng sillaf ddiacen a sillaf acennog.
Mae modd cael, fel y cofiwch eto ers dyddiau'r hen Jac y Do, odl nad yw'n dibynnu ar ddim ond ateb yr un llafariad: Do, to, llo, bro, ffo, tro, dominô. Odl lafarog yw'r term ar honno.
Er mwyn cael odl gyflawn, rhaid ateb cytsain ddwbl ar ddiwedd gair - mae pant a sant yn odli ond nid yw llan yn odli am nad yw'r t olaf yn cael ei hateb. Unwaith eto, bydd synnwyr y clyw yn rhoi golau coch i unrhyw ymgais at wneud hynny.
Weithiau bydd dwy lafariad seml yn uno â'i gilydd i greu un sain fel ae yn llaes neu oe yn croen. Y term am ddwy lafariad glwm fel hyn yw deusain. Fel gyda chytseiniaid dwbl, rhaid ateb deusain gyda deusain gyflawn fel rheol:
mae/gwae,
nefoedd/ydoedd,
gwneud/dweud.
Ond mae rhai eithriadau - gellir odli gair fel gweithiwr gyda gw^r, a gair fel poeriad gyda gwlad. O'u dweud yn uchel nid oes dim trafferth.
Mae modd ynghanu wy mewn dwy ffordd - wy fel yn mwyn, ac wy fel yn gwyn. Mae'r ddwy sain yn hollol wahanol ac mae'n amhosibl eu hodli - mae'r glust yn eu gwrthod pob gafael. Pan fyddant yn digwydd mewn sillafau diacen, mae angen clust fain iawn weithiau i wahaniaethu rhyngddynt. A yw cychwyn yn odli gyda mwyn yntau â gwyn? Un ffordd o ateb cwestiwn o'r fath yw symud yr acen yn y gair fel ei fod yn disgyn ar y sillaf o dan amheuaeth, er engraifft cychwyn > cychwynnaf. Mae'r acen yn dod â'r sain yn eglurach ac rydym yn sylweddoli mai odli â gwyn y mae. os yw'r benbleth yn parhau, yr unig ffordd bendant o dorri'r ddadl yw cael gafael ar Yr Odliadur gan y diweddar Roy Stephens.
Nid oes raid i odlau ddigwydd rhwng diwedd llinellau yn unig.
Mi af oddi yma i'r Hafod Lom
Er ei bod hi'n drom o siwrne'
Odl gyrch yw'r term ar odl o'r fath ac yn y mesurau caeth mae'n digwydd yn y toddaid byr. Dyma un i Dafydd Iwan:
a'i waed coch a'i lygaid cau - a'i ddawn brin
yn codi'i werin i ben cadeiriau.
Ceir odl fewnol o fewn yr un llinell. Dyma engreifftiau o'r hen ganu cynharaf yn yr iaith:
Gwy^r a aeth Gatraeth oedd fraeth eu llu.
Ac wedi elwch, tawelwch fu.
Ac yn llinell anfarwol Dafydd ap Gwilym i'r llwynog:
Llewpart â dart yn ei dîn.
Mae llawer o hwyl i'w gael wrth odli - ac mae odlau dwbl yn sbort ynddynt eu hunain. Mae'r rheiny i'w clywed yn aml mewn limrigau. Meddyliwch am bolibiliadau cyfuniadau tebyg i Neli/Pwllheli/jeli neu Wili/Rhosili/sili.
Yn ogystal ag odlau amlwg, swnllyd fel yr odl ddwbwl, ceir odlau tawelwch, cynilach. Mewn un math o odl, gellir ateb y llafariaid neu'r deuseiniaid ond hepgor ateb y cytseiniaid a ddaw ar eu holau:
Jim Cro Crystyn, wan tw^, ffôr
A'r mochyn bach yn eistedd mor ddel ar y stôl
Nid yw'r r a'r l ar ddiwedd yr odl yn cyfateb - lled-odl neu odl Wyddelig yw'r term am y sain hwn. Mae'n digwydd mewn caneuon gwerin, yn yr hen ganu cynnar - a hefyd yn y canu roc diweddaraf yn yr iaith.
Odl o fath arall yw'r hyn a elwir yn broest. Mewn proest cyffredin, dim ond y cytseiniaid ar ddiwedd y sillafau fydd yn cyfateb ei gilydd yn hytrach na'r cytseiniaid a'r llafariaid fel mewn odl gyffredin. Er hynny, er mwyn proestio'n gywir, rhaid i'r llafariaid a'r deuseiniaid yn y sillafau hynny fod o'r un pwysau ac yn hannu o'r un dosbarth. Mae'n amhosib cael proest lle mae 'na lafariad drom yn ateb un ysgafn.
Ond fel gyda phopeth arall, does dim byd mor gymleth â'r disgrifiad ohono. Mae 'na engraifft dda o broest sy'n gyfarwydd i bawb:
``Wel!''
meddai Wil
wrth y wal.
Mae wel, Wil, wal yn gorffen gyda'r un gytsain: l. Mae'r tri gair yn cynnwys sillafau sydd o'r un pwysau â'i gilydd. Mae nhw i gyd yn fyr, yn drwm, felly mae'r tri gair yn proestio.
Fyddai pêl daflodd Wil at y wal ddim yn proestio oherwydd mai llafariad ysgafn sydd yn pêl.
Mae hen a gwên yn odli ac mae'r ddau air yn proestio gyda cân, dyn, sw^n, tôn, min ac un am fod y llafariaid o'r un pwysau a'r geiriau i gyd yn gorffen gyda'r un gytsain.
Nid yw hen a pren yn odli - mae'r naill yn ysgafn a'r llall yn drwm ac felly nid yw hen yn proestio gyda llan, gwyn, pwn, ffon na prin, ond mae pren yn gwneyd hynny.
Yn yr un modd mae'n bosibl cael odl lafarog mae hefyd yn boslib cael proest llafarog. Mae bro a to yn odli ac mae'r llafariaid yn ysgafn. mae bro a to felly yn proestio gyda da, ci, te, du, ty^, sw^.
Dyna broest syml, ond mae proest yn digwydd os yw deuseiniaid y sillafau yn ateb ei gilydd yn ogystal. Mae'r cawl yn twchu yn awr ac mae arna'i ofn y bydd rhaid troi yn ôl yn aml at yr adran hon i gael y pwnc yn hollol glir.
Deuseiniad, fel y cofiwch chi, ydi dwy lafariad yn creu un sain gyfun fel ae yn cae ac wy yn mwy. Mae dau fath o ddeuseuniaid - rhai lleddf a rhai talgron.
Mae deusain dalgron yn cynnwys i neu w fel elfen gyntaf, ond gyda'r prif bwyslais ar y llafariad a ddaw fel ail elfen y ddeusain. Hynny yw:
Mae deusain dalgron yn oli gyda llafariad seml, er engraifft mae gwlad yn odli â cariad; mae gwy^r a Lly^r yn odli. Yn yr un modd, mae'r deuseiniaid talgron yn proestio gyda sillafau sy'n cynnwys llafariaid seml: gwas gyda nes, neu creithiog gyda golwg. Mae deuseiniad talgron hefyd, wrth gwrs, yn proestio â'i gilydd: gweithiwr â marwor. Unwiath eto, mae modd cael proest llafarog rhwng deuseiniaid talgron â'i gilydd, neu rhwng deusain dalgron a llafariad seml pan nad yw'r geiriau'n diweddu â chytseiniaid: gwe, to, holi, heddiw, herwa, ty^.
Mae'r deuseiniaid lleddf yn cael eu rhannu'n dri dosbarth. Yn y dosbarth cyntaf mae:
I ffurfio proest llawn, rhaid i'r deuseiniaid hyn fod yn cyfateb deuseiniaid lleddf o'r un dosbarth. Mae tew a byw yn proestio (proest llafarog fel mae'n digwydd) a cheir proest hefyd rhwng llawn a mewn, rhwng dewr ac awr. Pa eiriau sy'n proestio gyda cawl?
Yn yr ail ddosbarth ceir:
Mae'n rhaid i'r rhain eto ateb rhai o'r un dosbarth er mwyn proesytio'n gywir, fel chwarae ac wy^, neu ceir a gair.
Gyda datblygiad yr iaith, ffurfiwyd deuseiniaid newydd - aeth tëyrn yn teyrn, cywasgodd ymarhöus yn ymarhous. Mae'r rhain mewn trydydd dosbarth:
Mae'r deuseuniaid hyn eto'n proestio â rhai o'r un dosbarth â hwy eu hunain: parhau gyda creu. Unwaith eto, dyna engraifft o broest llafarog rhwng deuseiniaid lleddf o'r un dosbarth.
Gyda chymaint o reolau a dosbarthiadau ac is-ddosbarthiadau, mae rhywun yn gofyn pam trafferthu proestio o gwbl pan fo odli cymaint haws. Efallai fod hynny'n wir, ond dyma un cysur, beth bynnag: wrth gynganeddu, y gamp yn aml yw peidio â phroestio, yn hytrach na llwyddo i wneud hynny. Down at hynny yn y wers nesaf.
cyflwyniad cynnwys y wers nesaf
addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch