y wers flaenorol cynnwys y wers nesaf
Yn y wers flaenorol, rydym wedi dysgu bod gair fel merch yn air unsill, yn air acennog a'i fod yn odli â geiriau acennog eraill megis serch ac erch heb anghofio geiriau diacen fel annerch, priodasferch, llannerch. Gwyddom bellach fod merch hefyd yn proestio gyda geiriau fel parch, torch, cyrch, twrch a march.
O'r diwedd, rydan ni'n barod i gynganeddu â merch! Er mwyn dysgu'r egwyddor sylfaenol, byddai'n syniad da inni ddefnyddio'r gair fel un o brif acenion y gynghanedd. Mewn cynghanedd Groes a chynghanedd Draws, mae dwy brifacen mewn llinell - un yng nghanol y llinell a'r llall ar ei diwedd. Gadewch inni ystyried y llinell a ganlyn o farwnad Gruffudd ab Ieuan i Tudur Aled, pan fo'n rhestru hoff destunau'r cywyddwr hwnnw:
merch a gwalch a march a gw^r.
Ydi, mae'r gair merch yn cael ei gynganeddu yn y llinell, ond nid yw'r un o brifacenion y llinell yn disgyn ar y gair. Mae'r acenion ar y geiriau gwalch a gw^r yn y llinell hon. Dywedwch y llinell yn uchel: ``merch a gwalch [saib] a march a gw^r.'' Mae'r llinell yn rhannu'n naturiol yn ddwy ran yn tydi? Dyna rythm naturiol y llinell. Er mwyn hwylustod eto, mi ddefnyddiwn yr enwau swyddogol ar y prifacenion hyn - yr enw ar y brifacen gyntaf [gwalch] yw'r orffwysfa, gan ein bod, wrth ei dweud, yn gorffwys yno am ychydig, a'r enw ar yr ail brifacen [gw^r] yw'r brifodl gan fod sillaf olaf y gair hwnnw, fel rheol, yn odli gyda sillafau olaf llinellau eraill sy'n perthyn i'r un mesur.
Mae'r acen bob amser yn disgyn ar y llafariaid neu'r deuseiniaid yn yr orffwysfa a'r brifacen:
gwAlch
gW^r
Beth fedrwn ni ei ddweud am y ddwy brifacen hon. Tydyn nhw ddim yn odli - nac ydyn. Tydyn nhw ddim yn proestio - na, tydi -alch/-w^r ddim yn gyfuniad sy'n proestio. Ond mae'r ddau air yn unsill ac yn acennog. Ydyn, maen nhw'n gyfartal, yn gytbwys o ran aceniad y geiriau ac mae yna derm ar hynny hefyd - maen nhw'n gytbwys acennog. Maen nhw hefyd yn cychwyn â'r un gytsain: gwalch/gw^r. Maen nhw'n cytseinio - ond yn fwy na hynny, gan nad ydyn nhw'n odli nac yn proestio, maen nhw'n cynganeddu.
Mae gwalch yn cytseinio â golch, ond mae hefyd yn proestio â hwnnw. Oherwydd hynny nid oes cynghanedd rhyngddynt.
Mae gwalch yn cytseinio â (llwyth o) galch, ond mae'n odli â'r gair hwnnw yn ogystal ac nid oes cynghanedd yma chwaith.
Er mwyn cael cynghanedd rhwng yr orffwysfa a'r brifodl felly, ceir yr un cytseiniaid yn cael eu hailadrodd o flaen yr acenion, ond mae'r sillafau ar ôl yr acenion yn gwahaniaethu - dydyn nhw ddim yn odli nac yn proestio. Sw^n tebyg o flaen yr acen a sw^n gwahanol ar ôl yr acen - o dan yr amodau hynny y gallwn greu cynghanedd sy'n gytbwys acennog.
Gadewch i ni edrych ar y geiriau hyn:
gw^r,
gw^n,
(yn ei) gwsg.
Does yr un ohonynt yn odli nac yn proestio â'i gilydd ond mae'r sain w^ yn hyglyw iawn gan fod yr acen yn disgyn arni bob gafael. Am hynny ni fyddai'n ddoeth defnyddio dau o'r geiriau hyn i ateb ei gilydd. Nid yw hyn yn fai mewn geiriau cytbwys acennog ond y duedd yw ceisio eu hosgoi erbyn heddiw.
I grynhoi, rydan ni'n chwilio am eiriau sy'n cytseinio ond heb fod yn proestio, odli nac yn meddu ar sain sy'n rhy debyg er mwyn cael gorffwysfa a phrifacen i linell o gynghanedd gytbwys acennog. Dyna ni'n gwybod bellach be na fedrwn ei wneud - gadewch inni weld beth sy'n bosib i'w wneud yn awr.
Awn yn ôl at y gair merch. Beth sy'n cynganeddu yn gytbwys acennog gyda
m:Erch?
Mae digon o ddewis, debyg iawn:
m:Ab,
m:Ôr,
m:Wd,
m:AWr,
M:AI.
Wrth lunio llinellau o gynghanedd, byddwn yn cadw at linellau seithsill yn y gwersi hyn. Dyna'r hyd mwyaf cyffredin i gynganeddion mewn mesurau fel yr englyn a'r cywydd. Mewn gwirionedd, dynwared llinellau sydd wedi'u creu o'n blaenau yw hanfod cerdd dafod - dynwared hyd y llinellau, dynwared aceniad a rythm y llinellau a dynwared cynganeddiad y llinellau hynny. Ond o fewn y patrwm hwnnw o ddynwared, mae lle i wreiddioldeb a gweledigaeth newydd yn ogystal.
Gadewch inni droi'n ôl at linell Gruffudd ab Ieuan i Tudur Aled. Mae honno'n un weddol hawdd i'w dynwared gan mai dim ond rhestr o eiriau unsill ydyw:
merch a gwalch a march a gw^r.
Saith sillaf, gyda'r llinell yn rhannu'n ddwy ar ôl gwalch:
merch a g:WALch | a march a g:W^r
Mae'r prifacenion - yr orffwysfa a'r brifodl - wedi'u nodi â llythrennau breision.
Sylwch ar batrwm y cytseiniaid o flaen y prifacenion:
merch a g:WALch | a merch a g:W^r m rch g: (ch)| m rch g: (r)
Mae'r holl gytseiniaid yn y rhan gyntaf yn cael eu hateb yn yr un drefn yn yr ail ran. Mae'r un patrwm o gytseinedd yn cael ei gario yn groes i'r orffwysfa ac yn cael ei ailadrodd o flaen y brifodl. Yr enw ar gynghanedd o'r fath yw cynghanedd groes, a'r enw llawn ar y math arbennig hwn - oherwydd bod y ddwy acen yn gytbwys ac yn acennog yw cynghanedd Groes Gytbwys Acennog. Dyna'r egwyddor felly - yr un patrwm o gytseinedd o flaen yr acenion, ond patrwm gwahanol o seiniau ar ôl yr acenion, h.y. dim odl na dim proest.
Awn ati i greu llinellau ein hunain. Mae'r gair merch gennym fel un acen a gallwn ddewis gair arall o'r rhestr ar gyfer yr ail acen. Beth am drïo rhywbeth fel hyn:
...............merch | ...............mawn
Os am ddynwared y llinell goffa i Tudur Aled, gallwn ychwanegu'r geirynau hyn:
............a merch | a.............a mawn
Tydi hi ddim o bwys am synnwyr (ar hyn o bryd!). Cael y sw^n yn gywir sy'n bwysig. Beth am geisio ateb y rhan gyntaf a ganlyn:
gw^r a merch | a ............... a mawn
Beth sy'n rhaid ei ateb? Wel, mae merch a mawn yn cydbwyso ac yn ateb ei gilydd yn gynganeddol yn barod, felly dim ond y cytseiniaid yn gw^r sydd rhaid eu hateb, sef g ac r. Rhaid eu hateb yn yr un drefn, debyg iawn. Beth am y rhain:
gw^r a merch | a gwair a mawn gw^r a merch | a gro a mawn gw^r a merch | a gyrr a mawn gw^r a merch | a gair a mawn
Does dim rhaid cadw at eiriau unsill - mae modd cael hyd i eiriau deusill neu luosill i lenwi'r bwlch yn ogystal, gan newid y brifodl fel bo'r angen:
gw^r a merch | a gwario mawr gw^r a merch | gwiwer a mes gw^r a merch | a geiriau mud
Mae'r g a'r r yn cael eu hailadrodd o flaen yr m yn yr ail ran bob tro gan greu cynghanedd lwyddiannus bob tro. Ystyriwch air arall ar gyfer dechrau'r rhan gyntaf:
dyn a merch | a ............... a mawn
Beth sy'n addas i lenwi'r bwlch?
dyn a merch | a dawn a mawn
Ydi, mae'r cytseiniaid d ac n yn cael eu hateb y tro hwn. Ond dywedwch y llinell yn uchel.
.....dAWN a mAWN
Mae dawn yn sillaf acennog oddi mewn i'r llinell ac mae'n odli â'r brifodl. Mae 'na ormod o sw^n i'r llinell oherwydd hynny ac mae'n tynnu oddi wrth y gynghanedd yn lle ychwanegu ati. Yr enw ar y bai hwn ydi gormod odl.
O ran diddordeb, pe bai gennym linell fel hon:
dyn a merch | a dawn a march
byddai'n gywir o safbwynt y bai gormod odl, ond sylwch ar y prifacenion. Mae merch/march yn proestio a'r term ar y bai hwnnw mewn cynghanedd yw proest i'r odl.
Gadewch inni droi at linell arall sy'n groes gytbwys acennog ond yn cynnig patrwm geiriau gwahanol i ni geisio'u dynwared. Dyma un gan Dafydd ap Gwilym, pan yw'n sôn am Morfudd, un o'i gariadon:
oeddwn gynt iddi yn gaeth.
Gadewch inni weld yr hyn sydd gennym:
oeddwn g:Ynt | iddi yn g:AEth dd n g:(nt)| dd n g: (th)
Mae'r orffwysfa yn disgyn ar gynt, y brifodl ar gaeth. Mae'r cytseiniaid dd, n, g o flaen yr acen yn rhan gyntaf y llinell ac mae'r un cytseiniad yn yr un drefn o flaen yr acen yn yr ail ran. Y gwahaniaeth yn y patrwm geiriau yw bod y cytseiniaid yn oeddwn yn cael eu hateb gan gytseiniaid mewn dau air, iddi yn. Nid yw hynny o ddim bwys o safbwynt y gynghanedd. A dweud y gwir, mae'n ychwanegu at rythm y llinell.
Beth am newid y brifodl? A fedrwch gynnig geiriau eraill i lenwi'r bwlch?
oeddwn gynt | iddi yn ...............
Beth am y rhain:
oeddwn gynt | iddi yn gâr oeddwn gynt | iddi yn gân oeddwn gynt | iddi yn giwt oeddwn gynt | iddi yn gyw
Mae llawer mwy - daliwch i ychwanegu at y rhestr. Beth am newid yr orffwysfa yn ogystal â'r brifodl y tro hwn:
oeddwn ddoe | iddi yn ...............
Pa eiriau sy'n cael eu galw gan ofynion y gynghanedd hon?
oeddwn ddoe | iddi yn ddydd oeddwn ddoe | iddi yn ddawns oeddwn ddoe | iddi yn ddeddf oeddwn ddoe | iddi yn ddall
Mae'n amser camu ymlaen a dod ag elfen newydd i mewn i'r wers yn awr. Dyma linell gan Guto'r Glyn yn canmol ty^ hardd ei noddwr:
neuadd hir newydd yw hon.
Gallwn ddadelfennu hon yn ddigon didrafferth bellach:
neuadd h:Ir | newydd yw h:On n dd h:(r)| n dd h:(n)
Beth am dynnu'r gair hir o'r orffwysfa. Fedrwch chi gynnig geiriau yn ei le? Oes, mae ambell un yn cynnig ei hun - hardd, hoff ac ambell un diystyr, eto ta waeth am hynny ar hyn o bryd: hen, hyll, hallt, hurt ac ati.
Gwrandewch ar sain yr hir a'r hon. Sw^n ysgafn iawn sydd gan yr h - rhyw anadliad caled ydyw a dweud y gwir, ac nid cytsain sy'n clecian ar eich tafod neu yn erbyn eich dannedd. Oherwydd hynny mae rheolau cerdd dafod yn caniatáu inni beidio ag ateb y gytsain h os ydym yn dewis peidio â gwneud hynny (neu'n ei chael hi'n anodd i wneud hynny!). Goddefiad i'r rheol yw hon ac mae unrhyw lacio ar gaethdra'r system yn rhywbeth i'w groesawu. Dyna agor y drws i bosibiliadau eraill felly. Ond beth yn union? Gadewch inni hepgor yr orffwysfa wreiddiol ac edrych eto beth sy'n rhaid ei ateb:
neuadd .....:..... | newydd yw h:On n dd .....:..... | n dd (h):(n)
Gan nad oes raid ateb y gytsain h, byddai gair unsill acennog yn cychwyn gyda llafariad neu ddeusain yn unig yn ddigon i ateb gofynion y gynghanedd e.e.
neuadd :WYch | newydd yw h:On
Mae n ac dd yn cael eu hateb yn yr un drefn o flaen y ddwy brifacen ac mae'r gynghanedd yn gyflawn. Dewch â mwy o enghreifftiau i mi:
neuadd aur | newydd yw hon neuadd uwch | newydd yw hon neuadd oer | newydd yw hon
Yn yr un modd ag y gellir ateb h neu ei hepgor, gellir ateb r gydag r neu rh ac ateb s gydag s neu sh (fel mewn siop) e.e.
hanner awr o wên yr haul unrhyw win - yno yr oedd lwmp o siwgr a lamp a sach
Gall y geiriau sy'n cynnal yr acenion mewn cynghanedd groes fod yn eiriau heb gytseiniaid ar eu dechrau, felly. Yr hyn sy'n bwysig yw fod y cytseiniaid yn cael eu hailadrodd yn yr un drefn rywle o flaen yr acen. Mae modd cymysgu'r ddau batrwm - bod un gytsain yn sownd wrth yr acen ac un arall sy'n ei hateb yn perthyn i air gwahanol. Meddai Iolo Goch am ei noddwr hael:
aml yw ei aur im o'i law
Dyma'r dadansoddiad:
aml yw ei :AUr | im o'i l:AW ml : (r)| m l:
Mae'r ddwy acen aur/law yn gytbwys ac yn acennog. Na, tydi'r geiriau hynny ynddynt eu hunain ddim yn cynganeddu - ond llinell o gynghanedd ydyw, cofiwch, nid geiriau unigol yn cynganeddu. Mae'r geiriau sy'n dod o flaen y ddwy brifacen yn cyflawni'r gynghanedd.
Cynigiwch amrywiadau ar y patrwm:
aml yw ei win | im o'i law aml yw ei uwd | im o'i law (!)
Cofiwch am eiriau'n dechrau gydag h hefyd:
aml yw ei haidd | im o'i law
Yn y wers gyntaf rydym wedi gweld bod modd i eiriau deusill a lluosill orffen yn acennog yn y Gymraeg yn ogystal, er mai eithriadau ydynt. Yr acen, nid nifer y sillafau mewn gair, sy'n cyfri i'r glust a dyna sy'n cyfri i'r gynghanedd yn ogystal.
Sut yr â rhywun ati i gynganeddu gair fel carafán neu adnabûm neu cangarw^. Gadewch i ni edrych ar y gofynion:
caraf:Án c r f:(n)
Mae'r acen ar yr a yn y sillaf olaf. Y cytseinaid o flaen yr acen yw c-r-f a rhaid eu hateb o flaen yr ail acen er mwyn creu cynghanedd Groes Gytbwys Acennog. Medrwn chwilio am air acennog sy'n cychwyn gydag f (cofiwch am y treigliadau - mae'r rheiny'n ystwytho'r dewis yn hwylus iawn yn y Gymraeg). Beth am:
caraf:Án | y criw o F:Ôn c r f:(n)| cr F:(n)
Nid yw'r prifacenion fan a Fôn yn proestio gan fod un llafariad yn drom a'r llall yn ysgafn, ac mae'r gyfatebiaeth yn gyflawn. Fel y gwelsom yn barod, gellir rhoi gair acennog heb gytsain, neu'n cychwyn ag h ar ei ddechrau fel prifacen yn ogystal. Dyma bosibilrwydd arall:
caraf:Án | y cryf yw h:I c r f:(n)| cr f (h):
Beth am adnabûm a cangarw^? Mae sawl drws yn agor eto. Dadelfennwch y rhain.
adnabûm y dewin byr adnabûm y dyn byw hwn dyna bobl a adnabûm canig a roes cangarw^ y cangarw^'n cnoi ei grys ceiniog ar ael cangarw^
Wrth gofio am un arall o'i noddwr, roedd galar Iolo Goch cymaint nes ei fod yn mynnu nad oedd hi'n werth trin y tir na phlannu cnydau yn y ddaear mwyach. Heb fod Tudur Fychan yno i'w hamddiffyn, meddai'r bardd, roedd y cyfan yn ofer:
na heuer mwy yn nhir Môn
Mae dadelfennu'r llinell yn codi pwynt diddorol:
na heuer m:WY | yn nhir M:Ôn n h r m: | n nh r M:(n)
Wrth edrych ar y gyfatebiaeth, gwelwn fod yr un cytseiniaid yn cael eu hailadrodd yn yr un drefn o flaen y ddwy brifacen. Ond mae un n yn ychwanegol ar ddechrau'r ail hanner. Dyna'r drwg - edrych ar y gyfatebiaeth yr ydym yn hytrach na gwrando arni. Dywedwch yn nhir yn uchel ac mi glywch y ddwy n yn toddi'n un sain. Mae'n gynghanedd Groes berffaith gywir felly.
Mae mwy iddi na hynny hefyd. Yn ei farwnad i Llywelyn ap Gwilym, cyhoeddodd Dafydd ap Gwilym mai arweinydd da a fuasai pe bai wedi cael byw, bod ei dy^ yn agored i bawb:
llyw lles pe byw, llys pawb oedd
a dyma'r dadelfeniad:
llyw lles pe b:YW, | llys pawb :OEdd ll ll s p b: | ll s p b : (dd)
Mae dwy gytsain ll ar ddechrau'r rhan gyntaf a dim ond un ar ddechrau'r ail ran. Er hynny, mae bwlch rhwng y ddwy ll yn llyw lles. Mae'n amhosibl honni eu bod yn toddi i'w gilydd. Eto, o safbwynt clust y beirdd ar hyd y canrifoedd, barnwyd bod modd ateb dwy gytsain gyda dim ond un - cyn belled nad oes cytseiniaid eraill na phrifacen yn eu gwahanu.
Er mwyn pwysleisio eto yr hyn a ddywedwyd yn barod am bwysigrwydd y prifacenion, dyma gloi'r wers hon gydag astudiaeth o'r llinell:
aradr cryf ar odre craig
Gruffudd Llwyd piau'r llinell ac roedd o'n gweld yr uchelwr Hywel ap Meurig Fychan o Nannau, Meirionnydd fel aradr yn arddu'r tir, yn paratoi cnydau hael i'w ddeiliaid ac i'w gyfeillion.
aradr cr:Yf | ar odre cr:AIg r dr cr:(f)| r dr cr: (g)
Mae'n gynghanedd gref iawn, gyda'r cytseiniaid yn clecian ei hochr hi. Beth am amrywio'r orffwysfa - aradr crand, aradr croch, aradr crwm. Beth am amrywio'r brifodl: ar odre crib, ar odre crofft, ar odre crug, ar odre ceirch . . .
Ara' deg am funud. Gadewch inni sylwi ar y llinell olaf yna:
aradr cr:Yf | ar odre c:EIrch r dr cr:(f)| r dr c: (rch)
Does dim rhaid ateb y gytsain f ar ôl yr acen yn cryf fel y gwyddom. Ar ôl yr acen yn y brifodl, mae'r cytseiniaid rch. Ond mae angen y gytsain r o flaen y brifodl er mwyn cyflawni'r gynghanedd. Fel ag y mae hi, mae r-d-r-c-r o flaen yr acen yn y rhan gyntaf a dim ond y cytseiniaid r-d-r-c o flaen yr acen yn yr ail ran. Mae'r r olaf yn digwydd ar ôl y brifodl ac nid yw'r gytseinedd yn llyfn. Mae'n anghywir. Mae'n enghraifft o gamacennu. Crych a llyfn yw'r term ar y bai hwn.
y wers flaenorol cynnwys y wers nesaf
addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch