y wers flaenorol cynnwys y wers nesaf


Pedwaredd Wers cwrs Clywed Cynghanedd

Gwyddom mai gair acennog yw bawd a bod modd llunio cynghanedd Groes neu Draws Gytbwys Acennog gydag ef ar batrwm:

dyn â bawd o dan ei bac.

Ond beth am y gair bodiwr? Beth sydd gennym ni yn y gair hwnnw? A sut mae ei gynganeddu fel un o brifacenion y llinell? Gadewch inni weld:

b:Od-iwr
b: d- (r)

Gair deusill yw `bodiwr' ac mae'n gyson â'r patrwm arferol yn y Gymraeg o fod â'r acen ar y goben (y sillaf olaf ond un). B:Od-iwr, ddwedwn ni, gyda'r acen ar yr o. Beth am y sill olaf, -iwr? Acen ysgafn sydd ar hwnnw ac felly dyma batrwm y cytseiniaid:

b: [acen drom] d - [acen ysgafn] (r)

Os mynnwch chi, yr un sy'n bodio yw'r acen drom a'i bac yw'r acen ysgafn. I ateb bodiwr fel prifacen, rhaid cael gair arall sy'n dilyn yr un patrwm, e.e.

bwydydd
b: d-(dd)

Ond mae gan ambell fodiwr fwy nag un pac, debyg iawn:

abadau
-b:d-

Y patrwm yn y gair tri sillaf hwn yw:

[acen ysgafn] -b: [acen drom] d- [acen ysgafn].
O safbwynt y gynghanedd, yr acen drom yw'r un sy'n cynnal y brifacen a rhaid ailadrodd yr un patrwm cytseiniaid o gwmpas yr acen honno er mwyn creu cynghanedd. Mae geiriau fel bodiwr ac abadau yn diweddu yn ddiacen ac os rhoddir dau air felly yn yr orffwysfa a'r brifodl, bydd gennym gynghanedd Groes neu Draws Gytbwys Ddiacen.

Geiriau cytbwys diacen

Mae'r beiau rhy debyg, proest i'r odl a chrych a llyfn i'w gochel mewn cynghanedd gytbwys ddiacen yn union fel mewn cynghanedd gytbwys acennog. Yr un egwyddor sylfaenol sy'n cyfri sef bod y cytseiniaid o gwmpas y prifacenion yn ateb ei gilydd, bod y llafariaid yn wahanol ac nad oes proest yn digwydd ar ôl y prifacenion.

Mae gair fel bodiwr felly yn cynganeddu â geiriau fel:

bedwen,
beudai,
bydol

gan fod y geiriau hyn i gyd yn dilyn y patrwm

b:[acend-].

Ond mae'n proestio â:

budur,
ei bader,
yn bwdwr

gan fod proest yn y sillaf ar ôl y brifacen ar batrwm

b: [acen] d-r.

a byddai'r llinellau a ganlyn yn euog o'r bai proest i'r odl:

un budur ydi'r bodiwr
bodiwr yn dweud ei bader
bodiwr tan goeden bwdwr

Ymarferiad 1

Bai rhy debyg

Nid yw geiriau diacen fel bodiwr yn cynganeddu'n gywir â geiriau diacen tebyg os yw'r llafariaid yn y ddau sillaf olaf yr un fath â'i gilydd, e.e.

bodiwr,
bodiwch,
bodiwn.

Mae hwnnw'n fai cynganeddol a elwir yn rhy debyg. Er bod y gytsain olaf yn gwahaniaethu, mae'r sain yn rhy agos at ei gilydd i fod yn dderbyniol i'r glust.

Mewn gwirionedd, mae'r un llafariad ar yr acen yn ddigon i greu sain ansoniarus hefyd e.e. rhwng bOdiwr a bOda. Mae'n rhywbeth y dylid ceisio ei osgoi er ei fod yn dderbyniol o safbwynt cywirdeb cynganeddol erbyn hyn.

Ymarferiad 2

Camacennu

Nid yw bodiwr yn cynganeddu gyda bedyddio na gwybed oherwydd nad yw'r un cynganeddion o gwmpas yr acenion, hynny yw maent yn euog o'r bai crych a llyfn. Sylwer:

bed-:Ydd-io
b d-: dd-

g:WYb-ed
g:  b-(d)

Yn y gair bedyddio, y cytseiniaid d ac dd sydd o gwmpas yr acen drom, nid b a d fel yn bodiwr ac yn y gair gwybed, g a b sydd o gwmpas yr acen drom gyda d ar ôl yr acen ysgafn. Nid yw'r gyfatebiaeth yn llyfn, ac nid oes cynghanedd yma felly.

Ar y llaw arall, mae gair fel bywydeg yn dilyn y patrwm yn gywir. Er bod sill digytsain rhwng y b yn bywydeg â'r acen drom, nid yw hynny'n effeithio ar y gynghanedd. Mae patrwm y cytseiniaid o flaen ac ar ôl y brifacen yr un fath:

byw-:Yd-eg
b  -: d-(g)

Ymarferiad 3

Crych a llyfn

Pan fo cytseiniaid clwm rhwng yr acen drom a'r acen ysgafn yn y brifodl neu'r orffwysfa, rhaid eu hateb â'r un cytseiniad clwm. Mae'n amhosibl eu gwahanu neu ceir y bai crych a llyfn.

Er engraifft, yn y gair hacrwch, mae'r cytseiniaid clwm cr rhwng yr acen drom hA- a'r acen ysgafn -wch. Pe bai'r gair hwn ar yr orffwysfa mewn llinell o gynghanedd, ni fyddai'n bosibl llunio prifodlau gyda'r geiriau hyn er engraifft:

cariad,
haciwr,
cyrchu.

Mae'r gytseinedd yn debyg rhwng y tri gair a hacrwch, ond does dim cynghanedd rhyngddynt gan eu bod yn euog o'r bai crych a llyfn:

hacrwch = [acen drom] : cr - [acen ysgafn] (ch)
cariad  = c: [acen drom] r - [acen ysgafn] (d)
haciwr  = [acen drom] : c - [acen ysgafn] r
cyrchu  = c: [acen drom] rch [acen ysgafn]

O edrych ar batrymau'r cytseiniaid, mae'n amlwg nad oes llyfnder yn y gyfatebiaeth.

Ymarferiad 4

Ateb dwy gytsain gydag un

Wrth ateb y gytsain a ddaw ar ôl yr acen drom fel hyn, rhaid cofio'r rheol bod modd ateb dwy gytsain gyda dim ond un, cyn belled nad oes cytsain arall nac un o brifacenion y llinell yn dod rhyngddynt. Ni fyddai'r llinell hon yn gywir:

yn dOdwy | yn y dIWedd
 n d:d-  |  n   d:-(dd)

Ar un olwg, mae un d yn yr ail hanner yn ateb y ddwy d yn dodwy. Ond mae'r orffwysfa wedi'i gosod ar yr o yn dodwy, gan wahanu'r ddwy d felly rhaid ateb y ddwy d gyda gair fel dedwydd neu didol lle bo dwy d hefyd wedi'u rhannu gan acen drom.

Mentro

Gwyddom bellach beth sy'n cael ei wahardd - ond beth sy'n bosibl o fewn y rheolau hyn? Dewch i roi cynnig arni.

Ymarferiad 5

Ymarferiad 6

Croes gytbwys ddiacen

Rydym yn barod yn awr i greu cynganeddion seithsill gan ddefnyddio'r patrwm hwn o brifacenion. Dadelfennwch y llinell hon o waith Gutun Owain:

aml gwinoedd a mêl gwenyn.

Mae'n rhannu'n ddwy yn naturiol ar ôl y gair gwinoedd. Y ddwy brifacen felly yw gwinoedd/gwenyn a chan fod yr holl gytseiniaid o flaen y brifodl yn cael eu hateb o flaen yr orffwysfa, mae'n llunio cynghanedd Groes:

aml g:WIn-oedd | a mêl g:WEn-yn
 ml g:  n- (dd)|   m l g:  n-(n)

Dull eithaf syml o lunio cynghanedd o'r fath yw defnyddio'r patrwm `dau a dwy' e.e.

dau gybydd a dwy goban.

Ymarferiad 7

Traws gytbwys ddiacen

Os nad yw'r holl gytseiniaid o flaen y brifodl yn cael eu hateb o flaen y brifodl, yna cynghanedd Draws sydd gennym. Yn ei gywydd `Trafferth mewn Tafarn', mae Dafydd ap Gwilym yn disgrifio'i helbulon wrth godi'r nos i geisio cyfarfod â'i gariad yng nghanol tywyllwch ty^ tafarn. Mae'n baglu a chodi twrw a thynnu sylw ei gydletywyr sy'n Saeson digydymdeimlad. Dyma enghreifftiau o gynganeddion Traws Cytbwys Diacen o'r cywydd hwnnw:

d:EUthum | i ddinas d:Ethol
d:  th(m)|  (dd n s)d: th(l)

d:Yfod | bu chwedl ed:Ifar
d: f(d)|(b  ch  dl) d: f(r)

g:Ygus | oeddent i'm g:Ogylch
g: g(s)|  (dd nt   m)g: g(lch)

Yn yr enghreifftiau hyn, dim ond y ddeusill sy'n cario'r prifacenion sydd hefyd yn cynnal y gytseinedd. Ond gellir ymestyn y gytseinedd i sillafau eraill o flaen y brifacen:

a ll:Afar | badell :Efydd
  ll: f(r)|(b d)ll : f(dd)

g:WEIddi | gw^r gorwag :OEddwn
g:   dd  |(g  r g r) g :  dd(n)

Mae'r ll yn y gair badell yn cydio yn y brifodl efydd ac yn rhoi yr un patrwm o gytseiniaid o amgylch y brifacen ag a geir yn llafar. Yr un modd gyda'r g ar ddiwedd gorwag.

Gellir cael n wreiddgoll mewn llinell o'r fath yn ogystal:

yn tr:Afferth | am eu tr:Iphac
(n)tr: ff(rth)| (m)   tr: ph(c)

Ymarferiad 8

Llafariaid ar ddiwedd y goben

Mewn rhai geiriau, mae sillaf y goben yn diweddu â llafariad e.e. ew:yn, gae:af, new:ydd, llu:oedd, aw:en, dew:is.

Os yw ergyd y llais ar lafariad un o brifacenion y llinell, yna rhaid iddi gyfateb hynny yn y brifacen arall. Ar yr acen, rhaid ateb yr un patrwm cytseiniol ac os nad oes cytsain yno, neu yr hyn a elwir yn gytsain sero, rhaid cadw at yr un patrwm. Daw'r llinellau hyn eto o gywydd Dafydd ap Gwilym:

yn te:EW-i | yn y t:YW-yll
 n t :  -  |  n   t:  -(ll)

gwedd:Ï-ais | nid gwedd :E-ofn
g  dd: - (s)|(n d)g  dd : -(fn)

Ymarferiad 9

Cynghanedd lafarog

Er mai cytseinedd yw sail y cynganeddion Croes a Thraws, mewn egwyddor, gellir cael cynghanedd lafarog yn ogystal lle na bo'r un gytsain yn cael ei hateb:

:AW-en | y bythol :IEU-anc
:  -(n)|  (b th l):   -(nc)

Yn yr un modd, gellir cael cynganeddion cytbwys acennog llafarog:

o :WEnt | y teithiodd i :l
  : (nt)|  (t  th  dd)  : (l)

o'i :AUr, | rhoes lawer i'w :WY^r
    : (r) |(rh  s l   r)    :  (r)

Crych a llyfn

Yn union fel y mae crych a llyfn yn digwydd pan fo cytseiniaid yn y mannau anghywir o boptu'r acen, mae'n digwydd yn ogystal mewn acen lafarog lle na fo'r gyfatebiaeth yn dilyn yr un patrwm. O'i chymharu â llinell gywir Dafydd ap Gwilym, mae crych a llyfn yn hon:

gwedd:Ï-ais | ar y g:WEdd-won
g  dd: - (s)| (r)  g:  dd- (n)

Ar un olwg, mae'r gynghanedd yn gyflawn gyda'r gyfatebiaeth rhwng g ac dd yn cael ei hateb ar y naill ochr a'r llall drwy fynd ar draws y gytsain r ar ddechrau ail hanner y llinell. Ond sylwch ar batrwm yr acennu:

gwedd:Ï-ais | g:WEdd-won

Llafariaid sydd ar ddiwedd y goben yn gweddïais ond y gytsain dd sydd ar ddiwedd y goben yn gweddwon. Mae g ac dd o flaen yr acen yn yr orffwysfa ond mae g o flaen yr acen ac dd ar ei hôl yn y brifodl. Dyna grych a llyfn.

Ymarferiad 10

Ymarferiad 11

Ceseilio

Mae'r gynghanedd hon o waith Tudur Aled yn haeddu sylw manylach. Gadewch inni ei dadelfennu gyda'n gilydd:

Aberc:On-wy | barc g:WIn-wydd
 b rc: n-   | b rc g:  n- (dd)

Cynghanedd Groes Gytbwys Acennog ydyw. Ond na, arhoswch ennyd - a oes 'na enghraifft o dwyll gynghanedd yma? Mae'r gytsain wedi gwthio'i hun i'r ail hanner ac nid yw'n cael ei chyfateb yn yr hanner cyntaf. Dywedwch y llinell yn uchel eto - `Aberconwy, barc gwinwydd'. Yn rhyfedd iawn, o'i rhoi ar lafar, nid yw'r gytsain i'w chlywed. Cytsain feddal yw g ac yn union o'i blaen mae'r gytsain c ar ddiwedd y gair barc. Mae'r gytsain galed wedi llyncu'r un feddal, a'r ffordd o ddweud hynny wrth drafod cerdd dafod yw ei bod wedi ceseilio'r gytsain feddal.

Mae cytsain galed yn diddymu cytsain feddal sy'n sownd wrthi os yw o'i flaen neu ar ei hôl - ond mae'n rhaid i hynny ddigwydd heb yr un llafariad rhyngddynt. Mae'r chwe chytsain galed

c ff ll p t th

yn ceseilio'r chwe gytsain feddal

g f l b d dd

Dyma dabl yn dangos y cyfuniadau posibl wrth geseilio:

c/g      g/c     =     c  
ff/f f/ff = ff
ll/l l/ll = ll
p/b b/p = p
t/d d/t = t
th/dd dd/th = th

Mae enghreifftiau o hyn i'w clywed ar lafar, debyg iawn. Moelwch eich clustiau a gwrandewch yn astud:

wrth ddweud = wrth (dd)weud 
pob peth = po(b)peth
prif ffordd = pri(f)ffordd
cic gas = cic (g)as
at dân = at (d)ân

Rhaid cofio serch hynny nad yw w gytsain ar ddechrau gair yn gwahanu'r ceseilio.

  holl wlad = holl (wl)ad

Ymarferiad 12


y wers flaenorol cynnwys y wers nesaf

addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch