ymarferion blaenorol
y wers
ymarferion pellach
Mae un gair ym mhob rhestr yn proestio gyda'r gair cyntaf.
Pa un?
- seren:
- siriol,
- Saron,
- seiri,
- sarrug,
- siarad.
- canu:
- cynnig,
- ceinion,
- cwyno,
- cynion,
- acenion.
- gwaelod:
- ei gilydd,
- galw,
- gwylio,
- gwaeledd,
- gweled.
yn ô,l i'r wers
Mae un gair ym mhob rhestr yn euog o'r
bai rhy debyg
wrth geisio cynganeddu â'r gair cyntaf. Pa un?
- tyner:
- tanio,
- tonnau,
- tenau,
- trwyni,
- tynnent.
- poeri:
- purodd,
- pared,
- poeriad,
- parod,
- parau.
- megin:
- mygu,
- magu,
- mwgwd,
- megis,
- mygyn.
yn ô,l i'r wers
Mae un gair ym mhob rhestr yn camacennu
â'r gair cyntaf. Pa un?
- cariad:
- cywir,
- curo,
- cerrig,
- cwyro,
- cyhyrau.
- penyd:
- poenau,
- pawennau,
- poenydio,
- peunod,
- pynnau.
- lloriau:
- lloerwyn,
- llawer,
- llariaidd,
- llaweroedd,
- lloeren.
yn ô,l i'r wers
Mae un gair ym mhob rhestr yn euog o'r
bai crych a llyfn
wrth geisio cynganeddu â'r gair cyntaf. Pa un?
- croeso:
- creisus,
- corsydd,
- creision,
- crasiad,
- ceiriosen.
- costus:
- castiog,
- cystudd,
- castell,
- cistiau,
- costrel.
- persain:
- pyrsiau,
- parsel,
- proses,
- Persil,
- purswil.
yn ô,l i'r wers
Lluniwch restrau o enwau sy'n cynganeddu'n gytbwys ddiacen
â'r canlynol:
- miwsig e.e. mesen, ymosod, . . .
- agoriad e.e. gwirion, garw, . . .
- muriau e.e. myharen, mï,aren, . . .
yn ô,l i'r wers
Lluniwch restrau o eiriau sy'n cynganeddu'n gytbwys ddiacen
â'r canlynol drwy gyfrwng treiglad:
- miwsig e.e. fy mhwysau, . . .
- agoriad e.e. ei gywiro, dan garu, . . .
- yfory e.e. ei furiau, dan farrug, . . .
yn ô,l i'r wers
Ceisiwch chwilio am eiriau i lenwi'r bylchau a ganlyn. Cofiwch
y gallwch ddefnyddio enwau personol os bydd rhai'n cynnig eu
hunain.
- dau ............... a dwy gweryl
- dau siriol a dwy ...............
- dau ............... a dwy beniog
- dau Aled a dwy .................
- dau ddaliwr a dwy ..............
yn ôl i'r wers
Cwblhewch y llinellau hyn. Fe welwch fod yn rhaid ichi chwilio
am eiriau sy'n cynnwys y cytseiniaid o flaen yr orffwysfa sydd
heb gael eu hateb eto o flaen y brifacen. Lluniwch gynganeddion
Croes neu Draws seithsill.
- ymofynnai ............... feinir
- ap Gwilym ............... galed
- yn y dafarn ............... yfed
yn ôl i'r wers
Cynigiwch eiriau sy'n cynganeddu'n gytbwys ddiacen â'r geiriau
hyn. Gwyliwch yr acen lafarog yna, a chofiwch ddefnyddio
geiriau sy'n creu treigliadau er mwyn helpu eich hunain:
- bywyd
- diwedd
- gwiail
yn ôl i'r wers
Roedd yr hen gywyddwyr yn arbennig o hoff o gynganeddu
enwau lleoedd i gorff eu cerddi. Dewiswch yr enw lle cywir cywir
o'r rhestr i gwblhau'r llinellau cytbwys diacen canlynol:
- na syched fyth yn ............... (Iolo Goch)
(Sychnant, Sychdyn, Synod, Sycharth)
- llew a aned yn ............... (Lewys Glyn Cothi)
(Llan-non, Llinwent, Llangwm, Llyfnant)
- dur Denmarc am darw ............... (Tudur Aled)
(Dwyran, Dinmael, Dinbych, Dinas)
- y blaenaf o bobl .............. (Dafydd Nanmor)
(Aled, y Bannau, Wynedd, y Bala)
- ..............., llew'n yr heol (Tudur Aled)
(Llaneirwg, Llanrhaeadr, Llaneilian, Llanwrin)
- ..............., well na dugiaeth (Dafydd Nanmor)
(Llandygái, Llandegfan, Llanedgar, Llandygwy)
- cadw batent Coed-y-............... (Tudur Penllyn)
(Bethel, Bangor, Betws, Bennar)
- Rhys orau'n nhir.................. (Dafydd Nanmor)
(y Sarnau, Is Aeron, Soar, San Seiriol)
yn ôl i'r wers
Mae'r gyfatebiaeth yn gref iawn yn y llinellau hyn.
Tybed a fedrwch alw enw lle i gof eich hunain?
- mi euthum i ............... (Guto'r Glyn)
- brest ytwyd i ............... (Lewis Môn)
- llawn ergyd yn ............... (Tudur Aled)
- wrth lawnder, cyfraith ............... (Dafydd ab Edmwnd)
- mae ar wyneb ............... (Tudur Aled)
- bonfras Arglwydd o ............... (Guto'r Glyn)
- ac yno ym medw ............... (anhysbys)
yn ôl i'r wers
Pa gytseiniaid sy'n cael eu ceseilio yn y llinellau a ganlyn:
- mwyalchod teg ym mylch ton (Dafydd ap Gwilym)
- praff fonedd pur a ffyniant (o lyfr Simwnt Fychan)
- cawn 'i lliw fel cannwyll las (o lyfr Edmwnd Prys)
- os cariad ymysg ceraint (Wiliam Lly^n)
- fy enaid teg, fy un twyll (Lewys Glyn Cothi)
yn ôl i'r wers
ymarferion blaenorol
y wers
ymarferion pellach
addasiad
Gwasg Aredig
o ddeunydd
hawlfraint (h)
Gwasg Carreg Gwalch