y wers flaenorol cynnwys y wers nesaf


Chweched Wers cwrs Clywed Cynghanedd

Y gynghanedd lusg

Dyma adael y cynganeddion sy'n dibynnu ar gytseinedd a throi at gynghanedd sy'n cael ei llunio ar sail odl yn unig y tro hwn. Gwrandewch ar y llinell hon o waith Dafydd ap Gwilym:

taw â'th sôn, gad fi'n llonydd.

Gwrandewch arni'n ofalus. Oes 'na sw^n cytseiniaid yn clecian ynddi. Nac oes, go brin - mae'r llinell yn rhannu'n naturiol yn ddwy ran fel hyn:

taw â'th sôn, | gad fi'n llonydd

ond 'does dim math o batrwm ailadrodd yr un cytseiniaid o flaen y prifacenion. O wrando'n astud eto, sylwch ar y sain debyg rhwng yr orffwysfa a'r acen drom yn y brifodl:

taw â'th sôn, | gad fi'n llonydd.

Mae sôn a llon-ydd yn odli â'i gilydd a dyna'r cyfan sy'n creu cynghanedd Lusg. O lusgo dipyn ar y sillafu wrth ei hynganu, mae modd clywed y gynghanedd hon yn well.

Dyma fanylu ychydig ar ofynion y gynghanedd Lusg. Mae'n rhaid cael gair diacen ar gyfer y brifodl. Dadelfennwch y ddwy linell isod:

mae gwên yn rhoi llawenydd
mae gwên yn ein llawenhau

Mae llawenydd, sef y brifodl, yn air diacen gyda'r acen drom ar y goben (sef y sillaf olaf ond un: llawenydd). Mae'r orffwysfa yn disgyn ar y gair gwên ac mae sillaf olaf yr orffwysfa yn odli â'r goben yn y brifodl: gwên/llawenydd. Mae'n enghraifft gywir o gynghanedd Lusg felly. Ond dywedwch yr ail linell yn uchel eto. Gadewch inni wrando'n astud ar y gair olaf yna: llawenhau. Ar ba sillaf y mae'r acen drom yn disgyn? Llawen:hau ddwedwn ni yntê? Mae'r sillaf olaf yn cario'r acen drom, felly mae'n air acennog. Y sillaf olaf ond un yn y gair hwn yw lla-wen-hau. Mae'r sillaf honno'n ailadrodd yr un sain ag a geir yn y sillaf olaf ar ddiwedd yr orffwysfa ond nid yw'r odl yn cyrraedd ein clustiau am nad oes acen drom arni. Mae'r acen ar y sillaf olaf un a -hau yw'r sain sy'n eglur i'r glust. Nid yw hon yn gweithio fel cynghanedd Lusg oherwydd hynny ac mae'n cael ei gwahardd gan reolau cerdd dafod.

Ymarferiad 1

Ond nid oes rhaid i'r gair sy'n ffurfio'r orffwysfa fod yn air acennog. Os defnyddir gair diacen yno, serch hynny, mae'n ofynnol mai sillaf olaf y gair hwnnw a ddefnyddir i odli â goben y brifodl:

daw heulwen â llawenydd.

Ymarferiad 2

Yn wahanol i'r cynganeddion Croes a Thraws, nid oes wahaniaeth ym mhle y gosodir yr orffwysfa mewn llinell o gynghanedd Lusg - gall fod ar sillaf gyntaf y llinell neu ar yr un olaf un cyn goben y brifodl. Dyma amrywio dipyn ar linell Dafydd ap Gwilym:

sôn y cawn innau lonydd
rwy'n sôn am geisio llonydd
taw â'th ôn, gad fi'n llonydd
wedi'r holl ôn, caf lonydd
ac wedi'r holl ôn, llonydd

Mae'r llinellau hyn i gyd yn gywir. Ond rhaid sicrhau, fodd bynnag, bod rythm naturiol y llinell yn golygu fod yr orffwysfa yn disgyn yn naturiol ac yn gyfforddus ar y sillaf sy'n cynnal yr odl. Chwithig, ac o'r herwydd anghywir, yw llinellau fel hyn:

sôn wyf am geisio llonydd
rwy'n sôn eto am lonydd

O gadw hynny mewn cof, mae'n gynghanedd syml iawn i'w chreu - mor syml nes ei bod yn swnio'n ddamweiniol ar brydiau. Dyma ichi ychydig enghreifftiau o linellau sy'n rhedeg yn naturiol dros ben:

minnau mewn bedd a gleddir (anhysbys)
rhy isel fydd ei wely (Siôn Cent)
rhyfel meibion Llywelyn (Guto'r Glyn)
y mae merched y gwledydd (Ieuan Du'r Bilwg)
y ferch dawel wallt felen (anhysbys)
un galon, un haelioni (Gutun Owain)
mi af o Wynedd heddiw (Llywelyn Goch ap Meurig Hen)

Gan ei bod mor ddirodres, mae tuedd i rai beirdd ar hyd y canrifoedd wfftio ati braidd. Cynghanedd i ddysgwyr ydi hi, medden nhw, nid cynghanedd i feistri crefft sy'n medru clecian ei hochr hi yn y caeth. Nid yw hynny'n deg, fodd bynnag, ac mae gan y gynghanedd Lusg ei lle a'i llais ei hunan. Gall ei symlder fod yn brydferth iawn ar brydiau ond gan ei bod yn ``llusgo'r'' rythm, mae eisiau gofal rhag ei gorddefnyddio.

Ystyriwch yr enghraifft olaf uchod. Llinell o gywydd Marwnad Lleucu Llwyd ydyw gan fardd a oedd, yn fwy na thebyg, yn gariad i'r ferch. Mae'r odl rhwng Gwynedd a heddiw yn cael ei defnyddio ddwywaith ganddo yn y cywydd. Ar ddechrau'r gerdd, mae'n disgrifio'r golled yn y dalaith ar ôl prydferthwch glân y ferch:

nid oes yng Ngwynedd heddiw
na lloer, na llewyrch, na lliw

ac yna, yng nghanol y cywydd, daw'r llinell ``mi af o Wynedd heddiw''. Deffro adlais a wna odlau mewn cynghanedd Lusg - y goben yn y brifodl yn adleisio'r orffwysfa ac mae modd cynyddu'r adlais o ddefnydd cynnil o'r gynghanedd fel yng nghywydd Lleucu Llwyd.

Mae gan Dafydd Nanmor gwpled enwog:

Os marw hon yn Is Conwy,
ni ddylai Mai ddeilio mwy.

Cwpled sy'n cychwyn gyda chynghanedd Lusg yw honno. Cwpled sy'n rhan o gywydd yn galaru ar ôl merch. Y mae'r golled ar ei hôl cymaint, medd y bardd, nes ei fod yn teimlo mai oferedd a gwastraff yw rhialtwch y gwanwyn yn y coed hyd yn oed. Dyma enghraifft dda arall o'r modd y mae cynghanedd syml ei gwneuthuriad yn medru cario teimladau dyfnion iawn.

Mae gan Guto'r Glyn yntau gywydd marwnad i Llywelyn ab y Moel, bardd a milwr yn rhyfeloedd Glyndw^r a fu'n byw ar herw yng nghreigiau Powys ar ôl hynny. Mae'n cychwyn yn syml drwy enwi'r abaty lle gorwedd y corff. Eto mae rhywbeth yn ddramatig, yn ysgytwol yn y geiriau hyn sy'n cyplysu angau un gw^r gyda'r un lle hwn yn dragywydd:

mae arch yn Ystrad Marchell.

Ymarferiad 3

Ymarferiad 4

Odl lafarog yn y lusg

Wrth drafod y cynganeddion Traws a Chroes, gwelsom sut mae'r acen yn y goben yn disgyn ar sillaf sy'n diweddu â llafariaid mewn geiriau megis:

rw^-an, du-on, bro-ydd, new-ydd, e-os, aw-el.

Er mwyn creu odl berffaith ac felly greu cynghanedd Lusg gyda'r rhain yn brifodl, rhaid i'r sillaf olaf yn y goben orffen gyda'r un llafariaid megis y llinell hon gan Gutun Owain:

myfi a w^yr ysbïo.

Ymarferiad 5

Y gynghanedd lusg mewn cywydd

Daw'r llinell `myfi a w^yr ysbïo' o gywydd Gutun Owain `Golwg ar ei gariad' lle mae'r bardd yn cyfaddef ei fod yn taflu cipedrychiad slei ar ei gariad. Er ei fod yn gwadu hynny yn gyhoeddus, hi sy'n denu ei lygad ac mae'n fodlon rhoi edrychiad cudd arni, er ei fod yn gwybod ei fod yn pechu. Dyma'r math o olwg a roddai Dafydd ap Gwilym ar Ddyddgu; yr olwg sydd yn llygaid cariadon; yr olwg sy'n llygad yr aderyn ysglyfaethus wrth weld ei brae, yr olwg sy'n tanio canhwyllau lleidr pan wêl nwyddau mewn siop a'r olwg yn llygaid carcharor wrth weld heulwen rhwng barrau drws ei gell. Dyna ichi ddweud go gryf - ond gwrandewch ar y gwreiddiol a chwiliwch am y cynganeddion Llusg sydd yn y darn hwn:

Myfi a w^yr ysbïo
ar y drem bob cyfryw dro.
Edrych arnad, cyd gwadaf,
dan gêl yng ngw^ydd dyn a gaf:
un edrychiad pechadur
ar nef cyn goddef ei gur;
golwg Dafydd ap Gwilym
o gwr ael ar Ddyddgu rym;
golwg mab ar ddirgeloed,
golwg gwalch ar geiliog coed;
golwg lleidr dan ei 'neidrwydd
ar dlysau siopau yw'r swydd;
golwg hygar garcharor
ar ddydd drwy gysylltau'r ddôr.

Mae pum enghraifft o'r gynghanedd Lusg yn y darn byr uchod - ac mae'n bur anghyffredin cael cymaint gyda'i gilydd fel rheol. Ond tybed a wnaethoch sylwi ar rywbeth arall? Ym mhob un o'r enghreifftiau uchod, mae'r gynghanedd Lusg wedi'i lleoli yn llinell gyntaf y cwpled. Gan fod pob cynghanedd Lusg yn diweddu'n ddiacen, mae'n dilyn yn naturiol felly bod ail linell y cwpledi hyn yn diweddu'n acennog. Mae hon yn rheol mewn cwpled o gywydd - os defnyddir cynghanedd Lusg, yna mae'n rhaid ei gosod fel llinell gyntaf y cwpled. Llysiant Llusg yw enw'r bai o leoli'r gynghanedd Lusg mewn ail linell cwpled o gywydd. Sylwch ar yr enghreifftiau canlynol a dadelfennwch hwy:

Dy gastell ydyw'r gelli,
derw dôl yw dy dyrau di.

(Rhan o gywydd Tudur Penllyn i Ddafydd ap Siencyn yr herwr oedd yn byw yng nghoed Carreg y Gwalch yn Nanconwy. Sylwch fel y mae'r bardd yn gosod y coed a'r cadernid milwrol ochr yn ochr yn nwy linell y cywydd.)

Yn iach wên ar fy ngenau!
Yn iach chwerthin o'r min mau!

(Rhan o gywydd Lewys Glyn Cothi ar ôl colli ei fab pum mlwydd oed.)

Tripeth a gâr y barwn:
gweilchydd a chynydd a chw^n.

(Y pen heliwr yw'r `cynydd' a dyfyniad o gywydd Gutun Owain i ofyn am gw^n hela gan Hywel ap Rhys o'r Rug yn Edeirnion yw hwn.)

Dywed air mwyn â'th wyneb
o'th galon im, ni'th glyw neb.

(Dyfyniad arall o gywydd Gutun Owain, `Golwg ar ei Gariad' yw hwn.)

Pe bai'r ddaear yn fara
neu flas dw^r fel osai da,

(Yng nghywydd Dafydd Nanmor i wledd Rhys ap Maredudd, mae'n dweud yn felys pe bai'r ddaear yn fara, neu ddw^r yn win, na fyddent yn parhau fwy na rhyw dridiau yng ngwledd Rhys gan mor hael yw'r gw^r:

Yn ei wledd, rhyfedd barhau
dw^r a daear dri diau.)

Ymarferiad 6

Odli cytseiniaid clwm

Os yw goben y brifodl yn diweddu gyda chlymiad o gytseiniad, rhaid ateb yr un clymiad yn yr orffwysfa. Nid yw'r odl hon yn gyflawn:

wedi arfer â cherdded

ond mae'n gywir fel hyn:

gydag angerdd mae'n cerdded.

Weithiau, ffurfir geiriau cyfansawdd drwy gyfuno dau air: mawr+camp>mawrgamp, neu glas+coed>glasgoed.

Dro arall, ffurfir geiriau drwy ychwanegu terfyniadau sy'n dechrau â chytsain at air arall: cerdd-gar, rhagfarn-llyd, porth-mon.

Erbyn heddiw, nid oes raid ateb y clymiadau cytseiniol hyn i'w pen draw a byddai'r llinellau hyn yn dderbyniol:

cyflawnodd cawr ei fawrgamp
y gw^r cadarn rhagfarnllyd

Cynghanedd Lusg Bengoll yw'r term ar gynghanedd o'r fath, ond er ei bod yn gywir, ni chaiff ei chyfrif yn llinell gref iawn.

Llusg wyrdro

Gwrandewch ar y gwahanol sw^n sydd i'r llafariaid yn y geiriau hyn: aur/euraid, haul/heulwen, iaith/dwyieithog, dau/deuawd, dail/deilen. Yr un sain sydd i ai ac ei, ac i au ac eu yn wreiddiol yn y geiriau hyn ond maent yn amrywio yn ôl a yw'r sillaf acennog yn cael ei ddilyn gan sillaf diacen ai peidio. Wrth ychwanegu sillaf ddiacen atynt, mae'r sain au yn y gair aur yn gwyroi'r sain eu yn euraid, a'r sain ai yn y gair dail yn gwyroi'r sain ei yn deilen. Gan fod eu gwreiddiau mor agos, caniateir eu defnyddio fel odlau rhwng yr orffwysfa a'r brifodl mewn cynghanedd Lusg a'r enw ar y math hon o gynghanedd yw Llusg Wyrdro. Dyma enghreifftiau ohoni:

lle bu aur ar ei deurudd (Gruffudd ap Maredudd)
ni thyfodd yr ail ddeilen (Iolo Goch)
brenin haul a goleuloer (Gruffudd Gryg)
fy nadsain am w^yr einion (Lewys Glyn Cothi)

Mae'r seiniau'n agos er eu bod wedi'u gwyro rhywfaint.

Wrth ychwanegu sillaf ddiacen at y ddeusain ae o dan yr acen drom, mae sain honno'n newid rhywfaint yn ogystal, er engraifft gwae i gaeaf. Ond nid yw'r newid hwnnw'n ddigon i'w hatal rhag cael ei derbyn fel odl mewn cynghanedd Lusg ychwaith.

`Y' olau ac `y' dywyll

Mae'r llafariad y hefyd yn cael ei gwyro wrth symud o fod mewn gair unsill i fod ar yr acen mewn un deusill neu luosill. Y olau neu y glir sydd yn y geiriau: gwyn, byr, brys, cryg, grym. Y olau sydd yn y sillafau diacen hyn hefyd: newyn, eryr, erys, benthyg, wrthym. Ond pan fo'r y ar y sillaf acennog a sillaf diacen yn dilyn, mae'n gwyro i fod yn y dywyll: gwynion, byrrach, brysio, crygni, grymus.

Ar un adeg, caniateid odli y olau ar ddiwedd yr orffwysfa gydag y dywyll yn y goben, ond erbyn heddiw mae gormod o wahaniaeth rhwng y ddau sain i ganiatáu hynny. Byddai'n anghywir creu Llusg fel hyn:

byd gwyn a sêr melynion.

Oherwydd hyn, mae'n amhosibl creu llinellau o gynghanedd Lusg os oes y dywyll yn y goben.

Odli `y' olau ac `u'

Mae y olau yn debyg iawn i sain u bellach a does dim o'i le ar ateb y seiniau hynny i greu odl mewn cynghanedd Lusg:

melys ydyw dy gusan (Ieuan Deulwyn)

Trwm ac ysgafn mewn cynghanedd lusg

Mae sôn yn odli gyda tôn ond mae bai trwm ac ysgafn yn ei atal rhag odli gyda ton fel y gwyddoch bellach. Yn yr un modd, i glust fain y cynganeddwr, mae'r bai trwm ac ysgafn yn atal sôn rhag odli mewn cynghanedd Lusg gyda tonnau oherwydd bod y tonn- yn tonnau yn sillaf trwm.

Roedd y rheolau'n bur gaeth yngly^n â thrwm ac ysgafn mewn cynghanedd Lusg ar un adeg, ond y duedd bellach yw dim ond osgoi odl lle bo gair acennog yn yr orffwysfa gyda'r llafariad olaf ynddo yn dwyn acen grom, a gair yn y brifodl sydd â'i oben yn cario cytsain ddwbl - hynny yw n neu r ddwbl. Mae'r canlynol felly i gyd yn euog o'r bai trwm ac ysgafn:

ar lan y môr roedd corrach
gweld golau'r sêr mewn cerrynt
clywed cân yn y llannau
ar y ffôn mewn sw^n tonnau

Er hynny, byddai'r canlynol yn cael eu hystyried yn gywir erbyn heddiw:

am eneth lon y soniaf
dacw ben dan glwyf henaint

ac wrth gwrs:

mae All Bran imi'n lanach

Llusg deirodl

Weithiau bydd tair odl o fewn yr un gynghanedd Lusg gyda'r llinell yn rhannu'n dair rhan. Bydd diwedd y rhan gyntaf a diwedd yr ail ran yn odli ac yna'n odli gyda goben y brifodl yn ôl y patrwm arferol. Llusg Deirodl yw hon a dyma enghraifft:

a'i chlaerwin fin chwerthinog (Dafydd ap Gwilym)

y wers flaenorol cynnwys y wers nesaf

addasiad Gwasg Aredig o ddeunydd hawlfraint (h) Gwasg Carreg Gwalch