ymarferion blaenorol
y wers
ymarferion pellach
Mae gwên yn air acennog.
Pa eiriau acennog eraill fedrwn ni eu defnyddio
yn yr orffwysfa
i greu cynghanedd Lusg pan fo llawenydd yn y brifodl?
yn ôl i'r wers
Rhestrwch eiriau diacen eraill
y byddai'n bosibl eu defnyddio yn yr orffwysfa
er mwyn creu cynghanedd Lusg pan fo llawenydd yn brifodl.
yn ôl i'r wers
Unwaith eto mae defnyddio enwau lleoedd, fel Gwynedd,
Ystrad Marchell ac Is Conwy, yn ffordd hwylus i ddysgu
elfennau'r gynghanedd Lusg. Pa eiriau a ellid eu defnyddio fel
gorffwysfa os mai'r isod sydd yn y brifodl? Cofiwch feddwl am
eiriau acennog a diacen.
- (acennog) ............................................... Colorado
(diacen) ............................................... Colorado
- (acennog) ............................................... Dacca
(diacen) ............................................... Dacca
- (acennog) ............................................... El Paso
(diacen) ............................................... El Paso
- (acennog) ............................................... Patagonia
(diacen) ............................................... Patagonia
- (acennog) ............................................... Pwllheli
(diacen) ............................................... Pwllheli
- (acennog) ............................................... Zürich
(diacen) ............................................... Zürich
yn ôl i'r wers
Mae rhai enwau lleoedd sy'n diweddu'n acennog. Mae'n
amhosibl defnyddio'r rhain fel prifodl ond er hynny gallwn eu
defnyddio yn yr orffwysfa. Meddyliwch am eiriau sydd â'u
sillafau goben yn odli â'r rhain er mwyn creu fframwaith i
gynganeddion Llusg.
- Inverness ...............................................
- Japan ...............................................
- Sansibâr ...............................................
- Penarth ...............................................
- Tirol ...............................................
- Singapôr ...............................................
yn ôl i'r wers
Rhestrwch eiriau y gallwn eu defnyddio fel prifodl er mwyn creu
cynganeddion Llusg pe rhoddid yr enwau lleoedd a ganlyn yn yr
orffwysfa:
- Timbyctw^ ...............................................
- Santa Fé ...............................................
- Tre-lew ...............................................
- Delhi ...............................................
- Morocco ...............................................
- Aberffraw ...............................................
Ceisiwch ddefnyddio parau o enwau o'r ymarferiadau hyn i lunio
llinellau cyflawn o gynganeddion Llusg seithsill.
yn ôl i'r wers
Yn y cwpledi isod, mae gair sy'n llunio'r brifodl yn y gynghanedd
Lusg wedi'i adael allan bob tro. Ond drwy sylwi ar yr orffwysfa
yn y llinellau hyn a sylwi ar yr odl yn y llinell sy'n dilyn, dylech
fedru llenwi'r bylchau.
- Afal pêr ac ...............................................
a garai'r gwas a gro gwyn;
- bwa o flaen y ...............................................,
cleddau digon brau o bren
(Dau gwpled Lewys Glyn Cothi i'w fab)
- Heddiw mewn pridd yn ...............................................
O'i dda nid oes iddo ddim.
(Siôn Cent)
- Mae i'm cefn ers ...............................................
hen wayw ni ad hun y nos
(Guto'r Glyn)
- Dwyglust feinion ...............................................
dail saets wrth ei dâl y sydd.
- Ei flew fel sidan ...............................................
a'i rawn o liw gwawn y gwy^dd.
(Dau gywydd Tudur Aled i'r march)
yn ôl i'r wers
ymarferion blaenorol
y wers
ymarferion pellach
addasiad
Gwasg Aredig
o ddeunydd
hawlfraint (h)
Gwasg Carreg Gwalch