ymarferion blaenorol
y wers
ymarferion pellach
Ceisiwch chwilio am eiriau a all fod yn rhagodl i'r cyfuniadau
canlynol. Mae gennych ddewis o eiriau acennog neu rai diacen.
A go brin bod rhaid eich atgoffa bod rhaid gochel y
bai trwm ac ysgafn
wrth gael hyd i odl.
- .................., bol, buwch
- .................., cân, côr
- .................., dyn, (heb) dei
- .................., gwên, (fel) giât
- .................., trai, tro
- .................., plant, plwyf
yn ôl i'r wers
Chwiliwch am eiriau i lunio prifodl i'r parau hyn o eiriau.
Cofiwch fod rhaid gochel y beiau
proest i'r odl
(a elwir yn ddybryd sain
mewn cynghanedd Sain),
crych a llyfn
a
rhy debyg
yr un fath ag wrth lunio prifacenion y Groes a'r Draws.
- lleisiau, sarhau, ....................
- llawn, prynhawn, ....................
- oer, lloer, ....................
- eirlaw, glaw, ....................
- llef, tref, ....................
- gwell, ymhell, ....................
Lluniwch linellau yn cynnwys y geiriau a gawsoch gan dreiglo
lle bo angen gwneud hynny.
yn ôl i'r wers
Ceisiwch ganfod geiriau i greu gorodl a phontio'r gynghanedd
rhwng y rhagodlau a'r prifodlau hyn.
- derwen, ........................., haf
- drwg, ........................., man
- ewyn, ........................., llong
- tynnai, ........................., traeth
- mae, ........................., ffrind
- helynt, ........................., gwern
Lluniwch linellau seithsill gyda'r geiriau hyn.
yn ôl i'r wers
Drwy ailadrodd, mae gennym odlau ar gyfer y rhagodl a'r orodl
yn y tasgau hyn. Ceisiwch chithau ganfod geiriau i lunio prifodl
iddynt a chreu Sain Gytbwys Acennog:
- melyn, melyn, .........................
- araf, araf, .........................
- holwn, holwn, .........................
- cariad, cariad, .........................
- llonydd, llonydd, .........................
- gwenyn, gwenyn, .........................
yn ôl i'r wers
Mae angen gair sy'n diweddu'n acennog ar gyfer yr orodl yn y
llinellau a ganlyn:
- llyncu'r ......................... a wna'r moroedd
- daw Elen a'i ......................... gynnes
- dwyn i'r ......................... bob llawenydd
- hwythau ill ......................... sy'n deall
- gw^yl a'i ......................... ar heolydd
- y mae'r ......................... yn gysurus
yn ôl i'r wers
Llenwch y bylchau i greu llinellau o Sain Anghytbwys Ddyrchafedig:
- araith gan y ......................... fry (Dafydd ab Edmwnd)
- wedi Sion, ......................... y sydd (Gutun Owain)
- nac ofna er Bwa ......................... (Dafydd ap Gwilym)
- gan fyd gwenwynllyd gwae ......................... (Ieuan Tew Brydydd)
- saith gywydd benydd o'i ......................... (Dafydd ap Gwilym)
- aur melyn am ......................... môr (Dafydd ab Edmwnd - i wallt merch)
yn ôl i'r wers
Weithiau, bydd linell o gynghanedd yn cael ei llunio ar ôl cael
gafael ar ddim ond un gair -
a hwnnw yn aml, oherwydd gofynion y mesur, fydd y gair olaf yn y llinell -
sef y brifodl.
Dyma restr o brifodlau, ewch ati i lunio cynganeddion Sain yn seiliedig arnynt.
Cofiwch fod gennych bedwar math o aceniad - cytbwys acennog,
cytbwys diacen,
anghytbwys ddisgynedig ac anghytbwys ddyrchafedig.
- .................................................. gwên
- .................................................. dwylo
- .................................................. drwg
- .................................................. llygoden
- .................................................. gaeaf
- .................................................. beic
yn ôl i'r wers
ymarferion blaenorol
y wers
ymarferion pellach
addasiad
Gwasg Aredig
o ddeunydd
hawlfraint (h)
Gwasg Carreg Gwalch