ymarferion blaenorol
y wers
ymarferion pellach
Dyma enghreifftiau eraill - dadelfennwch yr acenion a nodwch
pa gytseiniaid sy'n cysylltu â dechrau'r rhan ddilynol:
- arglwyddes a santes oedd (Lewys Glyn Cothi)
- penaethiaid yw dy daid oll (Gwilym ab Ieuan Hen)
- y gwaed o'i draed a redodd (Ieuan Brydydd Hir)
- oni'th gaf, araf forwyn (Wiliam Lly^n)
- a cherdd am y ddager ddu (anhysbys)
yn ôl i'r wers
Chwiliwch am eiriau i lenwi'r bylchau i gwblhau'r odl gudd yn y
cynganeddion Llusg a ganlyn:
- mae ganddo ...................................... o ddoniau
- fe ddawnsia ...................................... y garreg
- ef bia ...................................... calon
- mewn gwlad dramor ...................................... gormes
- mae yn ein poeni ......................................
- mae hwn yn gartre ......................................
yn ôl i'r wers
Mae'r gynghanedd Groes o Gyswllt yn llyfn a swynol iawn ar y
glust. Gwrandewch ar y llinellau hyn, yna dadelfennwch hwy:
- y gw^r a ddug arwydd iach (anhysbys)
- am ddwyn Wiliam ddoe'n wylaw (Guto'r Glyn)
- llawer yn well a rhai'n waeth (Edmwnd Prys)
- dug ei enaid i ganu (Tudur Aled)
yn ôl i'r wers
Er mwyn llunio cynghanedd Groes o Gyswllt, mae angen un gair
neu glymiad o eiriau sy'n cychwyn a gorffen gyda'r un gytsain.
Dyma enghreifftiau acennog. Fedrwch chi gynnig atebion?
- ai dyma wlad .........................................
- heddiw yw'r dydd .........................................
- hogyn drwg .........................................
A dyma enghreifftiau diacen i'w cwblhau:
- delfrydwyd .........................................
- hwyl y garol .........................................
- diweled .........................................
yn ôl i'r wers
Dadelfennwch y cynganeddion Croes a Draws Cysylltben hyn
gan nodi pa gytseiniaid sy'n cael eu benthyca:
- o dda mwy ni ddymunwn (Tudur Aled)
- wy sydd fwy offisial (Guto'r Glyn)
- a maen perl mewn parlment (Gruffudd Hiraethog)
- och, Dduw, ni chuddia'i wyneb (Wiliam Lly^n)
- aros maen Syr Rhys Mawnsel (Iorwerth Fynglwyd)
yn ôl i'r wers
Pa gytseiniaid sy'n cael eu gwthio drosodd i ail hanner y llinell
yn y cynganeddion Drychben a ganlyn?
- lliw gwydr a blew llygoden (Gutun Owain)
- am y cwbl y mae cybydd (Gruffudd Gryg)
- oren mydr o ramadeg (Dafydd ap Gwilym)
- yn sicr fe gyll ei siaced (Iolo Goch)
- ar dy hoedl o'r Deheudir (Llywelyn Goch)
- o Gaer Went i gwm Anwig (Lewys Glyn Cothi)
yn ôl i'r wers
ymarferion blaenorol
y wers
ymarferion pellach
addasiad
Gwasg Aredig
o ddeunydd
hawlfraint (h)
Gwasg Carreg Gwalch